Mae dynes yn wynebu dirwy o £500 am drefnu protestiadau yn dilyn marwolaeth dyn fu farw oriau ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu yng Nghaerdydd.

Mae’r ddynes yn cael ei chyhuddo o dorri rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru drwy drefnu protestiadau y tu allan i orsaf heddlu Bae Caerdydd ar ôl marwolaeth Mohamud Hassan.

Cafodd Mr Hassan, 24, ei arestio nos Wener, Ionawr 8 ar amheuaeth o dor heddwch ar ôl adroddiadau am aflonyddwch yn ei gartref. Fe’i rhyddhawyd y bore canlynol heb ei gyhuddo.

Yna, fe’i canfuwyd yn farw yn yr un eiddo yn ddiweddarach y noson honno. Mae ei deulu’n honni ei fod wedi dioddef ymosodiad tra yn y ddalfa, ond dywed yr heddlu nad oes arwyddion o rym gormodol gan swyddogion.

Ddydd Gwener, dywedodd Heddlu De Cymru bod gwŷs wedi’i chodi am drefnu’r protestiadau ddydd Mawrth a dydd Mercher, lle’r oedd tua 200 o bobl yn bresennol ar y ddau achlysur yn mynnu y dylai fideo o arestiad Mr Hassan a’i amser yn y ddalfa yn cael ei chyhoeddi.

Mae gan y ddynes dan sylw yr opsiwn o dalu hysbysiad cosb benodedig o £500 neu ofyn am wrandawiad llys.

Digwyddodd dau brotest arall y tu allan i orsaf yr heddlu ddydd Iau a dydd Gwener, ac mae’r heddlu’n dweud bod ymholiadau pellach yn parhau o ran y protestiadau hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru ar waith i ddiogelu’r gymuned rhag lledaeniad Covid-19 a chafodd y camau hyn eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig byd-eang hwn.

“Mae ymholiadau i’r protestiadau yn parhau a rhagwelir camau pellach yn erbyn unigolion am dorri rheoliadau Covid-19 a / neu droseddau eraill.”

“Trasiedi”

Yn gynharach ddydd Gwener, disgrifiodd prif gwnstabl yr heddlu, Jeremy Vaughan, farwolaeth Mr Hassan fel “trasiedi” a dyweodd fod ymchwiliad annibynnol yn parhau, ond anogodd ddarpar brotestwyr i gadw at ganllawiau Covid-19.

“Rwy’n gwybod bod pobl am leisio barn; mae gwahaniaethu ac anfantais hiliol ar draws pob rhan o’n cymdeithas yn fater mor bwysig fel y dylid clywed lleisiau,” meddai.

“Ar adegau cyffredin byddai’r heddlu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso pobl yn arfer yr hawl honno i gael eu clywed yn gyfreithlon.

“Ond nid yw’r rhain yn amseroedd cyffredin. Mae pandemig iechyd byd-eang yn effeithio ar bob un ohonom ac mae’r feirws yn lledaenu, gan arwain at bwysau unigryw ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Byddwn yn annog pobl i ddilyn y rheoliadau a’r canllawiau i helpu i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.

“Rwyf angen i fy swyddogion heddlu weithio’n galed i ddiogelu’r cyhoedd, i ymateb i achosion o drais a cham-drin domestig, i ymateb i drais rhywiol, troseddau cyllyll, a phob math arall o drais a casineb.”

Mae teledu cylch cyfyng a fideo o gamera yr oedd swyddogion yn ei wisgo sy’n cynnwys Mr Hassan wedi’i drosglwyddo i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) sy’n ymchwilio i ymddygiad swyddogion.

Mae’r heddlu wedi dweud na ellir rhyddhau’r deunydd yn gyhoeddus tan ddiwedd yr ymchwiliad hwnnw.

Dywedodd cyfarwyddwr Cymru’r IOPC, Catrin Evans, y bydd yr ymchwiliad yn edrych ar lefel y grym a ddefnyddiwyd gan swyddogion, ond nad oedd yr arwyddion cynnar yn dilyn archwiliad post-mortem yn dangos unrhyw drawma corfforol i esbonio ei farwolaeth.

Dywedodd ei fodryb, Zainab Hassan, ei bod wedi gweld Mr Hassan ar ol iddo gael ei ryddhau ddydd Sadwrn, a bod ganddo “lawer o glwyfau ar ei gorff a llawer o gleisiau”.

Gallwch ddarllen mwy am farwolaeth Mohamud Hassan a’r ymateb mewn trefn gronolegol isod.