Mae cleifion yn peryglu eu hiechyd drwy ohirio sganiau calon pwysig nes eu bod yn cael brechiad Covid-19, mae clinigwyr wedi rhybuddio.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fod nifer “pryderus o uchel” o gleifion wedi canslo neu fethu â dod i sganiau cardiaidd uwchsain ers i’r brechlynnau ddod ar gael.

Mae tua 200 o gleifion wedi canslo hyd yn hyn, gyda llawer yn esbonio eu bod am osgoi’r ysbyty a’r risg tybiedig o gontractio Covid-19 nes eu bod wedi cael eu brechu.

Dywedodd Suzanne Churchill, pennaeth gwasanaethau ffisioleg glinigol yn y bwrdd iechyd, fod mesurau diogelu helaeth ar waith yn erbyn Covid-19 yn y clinigau cleifion allanol.

Rhybuddiodd fod y risg y bydd cleifion yn niweidio eu hiechyd yn barhaol, neu’n peryglu eu bywydau, drwy ohirio sgan yn sylweddol.

‘Ffenestr weithredu’

“Nid yw’r sganiau hyn yn rhai arferol, rhai pob dydd,” meddai.

“Os yw’r cleifion hyn yn cael eu galw am sgan, mae hynny oherwydd bod angen un arnynt. Os byddan nhw’n gohirio’r sgan a’i fod yn cael ei adael yn rhy hwyr, yna gallent gael niwed parhaol i’w calon – ac mewn rhai achosion gallai beryglu eu bywydau.

“Gyda monitro falfiau, er enghraifft, mae yna ‘ffenestr weithredu’ ac os collir y ffenestr honno bydd y galon yn cael ei niweidio’n rhy wael i wella.”

Mae clinigau cleifion allanol mewn rhan hollol wahanol o’r ysbyty i’r wardiau, ac ni cheir cleifion ward yno.

Mae staff yn gwisgo offer diogelu personol, ac mae mannau aros ar wahân i alluogi pobl i ymbellhau oddi wrth ei gilydd.

Mae cleifion sy’n dod i mewn am sgan “i mewn ac allan mewn llai na hanner awr”, meddai Suzanne Churchill.

Ond er gwaethaf hyn, nid yw tua 50% o’r apwyntiadau presennol yn cael eu cadw yn ysbytai Treforys, Singleton a Gorseinon.

Mae’r gwasanaeth yn cynnal sganiau cardiaidd, yn ogystal â chefnogi rhai cleifion canser sydd angen ymchwiliadau cyn eu trin.

‘Tswnami’

Dywedodd Ms Churchill ei bod yn poeni oa caiff tipyn o sganiau eu gohirio am fisoedd tan i bobl gael eu brechu, na fyddai staff yn gallu ymdopi â’r ymchwydd yn y galw yn nes ymlaen.

“Rwy’n ei gymharu â tswnami,” meddai.

“Gallwn eisoes weld y llanw’n tynnu allan, ac ar ryw adeg yn y dyfodol bydd yn gorlifo’n ôl i mewn ac yn ein llethu.

“Fyddwn ni ddim mewn sefyllfa i weld llawer o bobl ar unwaith felly bydd cleifion sydd wedi gohirio eu sganiau mewn perygl o oedi pellach.”

Anogodd Richard Evans, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gleifion i fynychu apwyntiadau.

“Rydyn ni’n gwybod nad oes cymaint o bobl ag y byddem yn disgwyl yn dod i’r ysbyty gyda chyflyrau fel trawiadau ar y galon a strôc – ac rydym yn pryderu eu bod yn osgoi cael triniaeth feddygol oherwydd eu bod yn poeni am Covid,” meddai.

“Dim ond pan fyddan nhw’n wirioneddol angenrheidiol er mwyn atal cyflwr rhag mynd yn fwy difrifol y byddwn yn galw pobl am apwyntiadau.

“Mae pob un o’n hadrannau bellach yn arbenigo mewn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu’n ddiogel a chyda’r holl ragofalon priodol ar waith.”