Mae ymgeisydd ar gyfer Senedd yr Alban a gafodd ei wahardd gan y Ceidwadwyr am ddweud bod pobol “dew” sy’n defnyddio banciau bwyd “yn bell o fod yn llwgu”, wedi cefnu ar y blaid.

Nid oedd Craig Ross chwaith yn hapus bod Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi plygu i ofynion y pêl-droediwr Marcus Rashford, sy’n ymgyrchu dros dlodi bwyd a bwydo plant llwglyd.

Mae’r blaid wedi cadarnhau nad yw Ross bellach yn aelod ac na fydd yn ymgeisydd Torïaidd ar gyfer etholaeth Glasgow Pollok yn yr etholiad seneddol ym mis Mai.

Dywedodd un o ffynonellau Ceidwadwyr yr Alban: “Gadawodd cyn iddo gael ei wthio.

“Gwnaethom ni hi’n gwbl glir iddo na allai ddal y safbwyntiau hynny a bod yn ymgeisydd i’r blaid.”

Wrth ymateb i sylw am beidio â gorfod “dilyn y blaid” mwyach, dywedodd Craig Ross: “Rwy’n teimlo’n sydyn fel pe bawn i’n gallu anadlu.”

Cafodd ei feirniadu’n hallt am sylwadau a wnaed ar ei bodlediad yn trafod pobl sy’n defnyddio banciau bwyd.

“Nid newyn yw eu risg fwyaf, ond clefyd siwgr,” meddai.

“Does gan bobl ddim syniad pa mor dew ydyn nhw”

Yn ystod y podlediad ar Fehefin 29, dywedodd: “Does gan bobl ddim syniad pa mor dew ydyn nhw.

“Dydw i ddim yn dweud bod pob person sy’n honni ei fod yn llwglyd iawn ac sy’n dibynnu ar elusen hefyd dros bwysau.

“Ond yr hyn rwy’n ei ddweud yw os yw Channel 4 News yn cael cynnig rhesymol ar ddangos realiti’r defnydd o fanc bwyd, yna gwyddom fod y bobol y maen nhw’n eu ffilmio ymhell o fod yn llwgu.”

“Didrugaredd”

Ar Trydar, ysgrifennodd AoS presennol Glasgow Pollok ac Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Humza Yousaf: “Mae’n rhaid i’r @ScotTories ddiswyddo eu hymgeisydd ar gyfer Glasgow Pollok.

“Mae ei sylwadau bod y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd ‘ymhell o fod yn llwgu’ yn gwbl ddidrugaredd.”