Pam bod rhai wedi penderfynu gwneud Ionawr y locdown hyd yn oed yn fwy anodd i’w hunan drwy drio Veganuary? Dyma un hen lysieuwr yn trio esbonio’i rhesymau am fentro’n figan…
Reit, gadewch i ni gael rhywbeth yn strêt cyn dechrau. Do’n i ddim am fod yn figan a gwneud ‘Veganuary’ oherwydd yr influencers a’u cyrff ioga ar Instagram. Nac oherwydd effaith niweidiol ffermio dwys ar yr amgylchedd (sydd o affwysol bwys wrth gwrs).
Y rheswm pennaf yw fy mod i’n ymwybodol bod y diwydiant cynhyrchu llaeth a chaws – ar y cyfan – yn golygu bod miloedd ar filoedd o anifeiliaid yn dioddef, a bod y cydwybod yn pigo ers blynyddoedd.
Dyma’r rheswm y trois yn llysieuwr 35 mlynedd yn ôl, yn 11 oed, ar ôl clywed bod yna fath beth â ‘vegetarianism’ (diolch i fy modryb dlos a oedd wedi bod yn rhan o brotestiadau Greenham Common). Do’n i methu dychmygu bwyta oen, neu fuwch, neu fochyn, neu iâr. Ro’n i’n dotio ar anifeiliaid. Ond roeddwn wrth fy modd â chicken’n’mushroom pie ffreutur yr ysgol, peidiwch sôn! Ond os rhoi’r gorau i’r cig coch (a oedd wedi codi cyfog byth oddi ar i mi sylwi ar bothelli gwyn ar ddarn o gig moch mewn caffi), roedd rhaid torri’r ieir mas hefyd. Ro’n i’n snowflake cyn i’r term anghynnes hwnnw gael ei fachu, debyg. Dw i’n cofio achub un gleren ar ôl y llall o ffenestr y garafan un p’nawn, a hynny cyn bod pawb wedi dechre achub gwenyn ac ati. Pethe i’w lladd oedd pryfed, ac ŵyn, bryd hynny.
A dyna oedd dechrau ar oes o glywed y cwestiwn, ‘Pam wyt ti’n llysieuwr – ddim yn hoffi cig, neu oherwydd yr anifeiliaid?’ Wyddwn i ddim fod yna opsiwn. Mae’r cwestiwn hwnnw, diolch i dwf figaniaeth, wedi newid bellach. Gofynnodd rhywun wrtha i ar Twitter, ar ôl i mi holi am lysieuwyr eriall a oedd am fentro bod yn figan eleni, ‘beth yw’r rheswm rwyt ti’n figan?’ er mwyn gallu awgrymu prydau priodol i mi. Chwarae teg iddi, ond dim ond un rheswm all fod – lles yr anifail.
Camp y figaniaid
Mae’r gymuned figan wedi llwyddo i wneud rhywbeth gorchestol mewn ychydig flynyddoedd na lwyddodd y llysieuwyr ei wneud dros yr holl ddegawdau.
Unwaith mae rhywun yn dechrau chwilio am bethe figan, yn enwedig pethau i ddisodli’r llaeth a’r caws yr oedd mor bresennol yn eu deiet, chi’n dechrau sylwi ar yr holl ystod o bethau sydd ar gael. Mae arwydd ‘Vegan’ ar bys wedi eu rhewi. Mae jam yn ‘suitable for vegans’. Mae Quorn – y cig ffug llysieuol – wedi addasu eu cynhwysion i fod yn figan. Sut lwyddodd nhw drochi’r farchnad fwyd i’r fath raddau, a throi deiet mor eithafol yn rhywbeth derbyniol? A minnau wedi gorfod bwyta cheese’n’broccoli bake am yr holl flynyddoedd?
Gofynnais hyn ar Twitter. Beth oedd wedi gweithio? Awgrymodd un figan clên mai oherwydd bod pobol yn becso fwy heddiw am yr amgylchedd ac am les anifeiliaid. Dw i ddim mor siŵr ai dyma’r prif reswm. Pe bai hi felly, pam bod yna filoedd o anifeiliaid mewn labordai drwy Brydain? Pam ein bod ni’n dal i brofi siampŵ a lipstic arnyn nhw? Pam bod ni’n dal i wisgo siwmperi angora a chotiau plu? Pam bod zoos yn bodoli lle mae’r anifeiliaid yn byw o dan straen annaturiol? Pam ein bod ni’n dathlu bwyta cig ar hysbysebion sgleiniog wedi eu lleisio gan actorion Hollywood? Ydyn ni wir yn poeni am les anifeiliaid drwy’r trwch?
Dw i’n amau bod pobol yn hunanol yn y bôn, ac mai ffasiwn sy’n gyfrifol am atyniad figaniaeth, yn rhannol o leia’, diolch i ddylanwad enwogion deniadol ar y We o bedwar ban y byd. Y ffordd o fyw mae pobol yn ei deisyfu. Fel yr oedd y ffasiwn i fod yn llysieuwr yn yr 1980au, diolch i gân ‘Meat is Murder’ y Smiths. Beth bynnag yw’r rheswm, diolch amdano.
Ffermio dwys yw’r bwgan, a’r diafol yn y darlun. Mae’r lluniau mae rhywun yn ei weld o ddulliau amaethu dwys yn ffieiddio unrhyw un: moch mewn caetshys yn methu symud modfedd, a’r perchyll yn ceisio sugno drwy’r bariau, gwartheg mewn rhes ar ôl rhes o gaetsys yn yr UDA. A ffatrioedd ieir – wel. Mae 60 biliwn o ieir yn cael eu magu ar gyfer cig bob blwyddyn a rhwng 1996 a 2016 fe gododd y galw am gig iâr bron i 40% yn yr UE, 89% yn China a 183% yn India. Bai pwy tybed?
Dw i’n dewis peidio â gweld lluniau os galla i beidio. Maen nhw’n aros gyda fi, yn fy nghadw ar ddihun. Ond diolch byth am y bobo hynny sy’n tynnu’r lluniau a’u cyhoeddi ar y We, neu fe fyddai neb yn gwybod y gwir. Ar bamffledi ar stondinau cornel stryd yr arferwn weld lluniau hunllefus o’r fath yn yr 1980au. Does neb yn siarad am y creulondeb. D’yn ni byth yn gweld y tu fewn i ladd-dy.
Un peth sy’n dân ar fy nghroen yw’r darlun neis-neis ry’n ni’n ei roi o ffermio anifeiliaid i blant. Mae llyfrau a gemau ‘Ar y Fferm’ yn boblogaidd iawn a bron ym mhob un mae’r mochyn a’r fuwch yn hapus reit. I’w cwtsio mae’r anifeiliaid yma, nid eu bwyta siŵr iawn! Isht nawr. Ry’n ni’n cuddio’r creudlondeb a’r gwirionedd, ac yna’n rhoi cig i’n plant achos dyna ry’n ni wedi arfer ag e. O’u gwirfodd, a fyddai plentyn yn dewis chwarae gyda chwingen fach, neu ei bwyta?
Ffermio llaeth
Ond mae cig a llaeth yn bwnc llosg yn y Gymru Gymraeg. Mae pawb yn gwybod taw ffermwyr yw asgwrn cefn y Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru. Rhaid iddyn nhw allu goroesi ac ennill bywoliaeth a chynnal eu teuluoedd o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae gen i bob cydymdeimlad â’r ffermwyr llaeth hynny sy’n perthyn i linach hir, lle mae godro’r fuwch gymaint rhan o’r ffordd o fyw ag yw’r cynaeafu neu’r cneifo. Mae’n chwerthinllyd i ffermwyr feddwl am beidio â chadw defaid a gwartheg achos dyna maen nhw wedi ei wneud erioed.
Ond, os yw chwaeth y prynwyr, y sawl sy’n bwyta’r cynnyrch, yn newid – oni fydd yn rhaid i’r cyflenwr addasu hefyd? A chofiwch, does gan y fuwch ddim dewis o gwbl ynglŷn â’i ffawd, dim. Mae gan bobol ddewis.
Pe bai’r byd yn dechrau wrth ddod â’r ffermio dwys o dan ryw fath o reolau llymach, byddai hynny’n rhywbeth. Ni fyddai pobol yn bwyta cynifer o’r pecynnau cig plastig rhad yna, ac yn dychwelyd at y cigydd a chefnogi ffermydd bach lleol. Ni fyddai cymaint o ladd a dioddefaint. Delfryd lwyr yw hynny yn y byd sydd ohoni, yn anffodus.
Diolch i’r holl sylw, o ba le bynnag y daeth, i figaniaeth, roedd yn chwarae ar fy meddwl. Ro’n i’n ffaelu stopio meddwl am y llo yn cael ei dynnu oddi ar ei fam er mwyn i bobol gael ei llaeth. Doedd dim rhaid i mi fod yn rhan o hynny mwyach. Felly, dw i’n rhoi cynnig ar Veganuary o’r diwedd. Wyt Ionawr yn oer, a gwell gennyf nawr gynhesu o flaen y tân â phaned o de a llaeth ceirch.