Mae ysbyty yn Norwich yn dod â phersonél meddygol y fyddin fewn i helpu, oherwydd bod cymaint o’r staff arferol yn dioddef o salwch yn sgil pandemig y coronafeirws.
Dywedodd Erika Denton, cyfarwyddwr meddygol yr ysbyty: “Mae gennym rywfaint o help yn dod gan gydweithwyr milwrol, gyda 30 o bersonél milwrol sydd wedi’u hyfforddi ychydig fel ein cynorthwywyr gofal iechyd – rôl ychydig yn wahanol.
“Byddan nhw’n dod i mewn i gefnogi ein staff clinigol.”
Wrth siarad ar BBC Radio Norfolk ddydd Gwener (Ionawr 15), dywedodd fod gan yr ysbyty deirgwaith cymaint o gleifion Covid-19 ar hyn o bryd – nag ar anterth y don gyntaf.
“Mae gennym nifer sylweddol o staff i ffwrdd yn sâl gyda Covid-19 neu yn hunan-ynysu oherwydd bod rhywun yn eu teulu wedi ei gael, ac mae hynny wedi ein rhoi o dan fwy fyth o bwysau,” meddai.
Ychwanegodd bod y lefelau salwch presennol yn 13% i 14%, a bod “hynny’n amlwg yn arwyddocaol iawn i ni”.
“Mae’n anodd iawn i ni staffio’r ysbyty pan mae gennym gymaint o bobol i ffwrdd yn sâl.”
“Pwysau aruthrol”
Dywedodd Erika Denton fod uned gofal dwys yr ysbyty fel arfer yn gofalu am tua 20 o gleifion, ond mae mwy na 30 o gleifion yno ar hyn o bryd.
Ac aeth ymlaen i ddweud fod yr ysbyty wedi trin mwy na 250 o gleifion sydd â Covid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, a 70 arall sydd wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 14 diwrnod.
“Mae pawb dan bwysau aruthrol,” meddai.