Mae bellach yn ofynnol i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o dramor gael prawf negyddol am Covid cyn teithio.

Daw hyn wedi i’r un mesurau gael eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban wythnos ddiwethaf.

Bryd hynny dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakefrod, nad oedd y rheolau yn berthnasol i Gymru ar hyn o bryd.

O ddydd Llun Ionawr 18 ymlaen, bydd rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar gychod, awyrennau neu drenau o dramor gael prawf negyddol hyd at 72 awr cyn gadael y wlad y maen nhw ynddi.

Mae’r mesurau yn cael eu cyflwyno i ddiogelu rhag yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws ym Mrasil, Denmarc a De Affrica yn ddiweddar.

Er mwyn darparu amddiffyniad pellach rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd o wledydd risg uchel nad ydynt ar restr Coridor Teithio Llywodraeth Cymru barhau i hunanynysu am 10 diwrnod waeth beth fo canlyniad eu prawf cyn gadael.

‘Atal mewnforio’r feirws’

“Bydd y mesurau newydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn atal mathau newydd o’r feirws rhag cael eu mewnforio i Gymru,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Rydym eisoes yn gofyn i deithwyr sy’n dychwelyd o wledydd risg uchel hunanynysu am 10 diwrnod ac mae’r gofynion hyn yn parhau.

“Yn ogystal â’r gofyniad i hunanynysu, bydd profion cyn gadael yn fesur diogelu arall i’n helpu i reoli’r feirws wrth i ni barhau i gyflwyno’r brechlyn yn gyflym.”

Ni chaniateir teithio am wyliau o dan rybudd lefel 4, boed hynny yng Nghymru, i fannau eraill yn y Deyrnas Unedig neu dramor.