Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi rhagor o fesurau i ddiogelu gweithwyr mewn archfarchnadoedd.

Wrth ymateb i gwestiwn gan weithwyr mewn archfarchnad yng Nghydweli ar raglen Pawb a’i Farn nos Iau (Ionawr 14) dywedodd y Prif Weinidog fod peidio diogelu gweithwyr yn “annerbyniol”.

“Mae pobol sy’n gweithio mewn siopau ar y rheng flaen,” meddai Mark Drakefrod.

“Nhw sy’n rhoi’r pethau angenrheidiol fel bwyd i ni bob dydd, ac ry’n ni’n gweithio’n galed gyda’r undebau sy’n cynrychioli a gwarchod y gweithwyr.

“Mi fydda i’n cyhoeddi yfory (dydd Gwener, Ionawr 15 ) bydd pethau yn cryfhau ac yn rhoi pethau mewn lle er mwyn helpu gweithwyr a phobol eraill sydd yn defnyddio siopau.”

Ni oedd Mark Drakeford wedi amlinellu beth yn union fyddai’r mesurau newydd ond cyfeiriodd at y newid oedd i’w weld yn y drefn mewn siopau ers y gwanwyn.

“Nôl yn y gwanwyn pan roeddech yn mynd i siopa roedd rhywun ar y drws yn cyfri pobol yn mynd i mewn, yn mynd mas, a dim ond rhai pobol oedd yn gallu mynd i mewn.

“Pan yn yr archfarchnad roedd pobol yn eich atgoffa sut i fihafio dros y tannoy, roedd pethau ar y llawr i ddangos i chi lle i fynd, pan oeddech yn talu roedd yna bobol yna ac yn glir dylid sefyll dwy fetr ar wahân.”

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gynnig rhagor o wybodaeth am y mesurau newydd yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener, Ionawr 15.

Cyfyngiadau newydd mewn siopau yn yr Alban

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban gyfyngiadau ychwanegol ar siopau a busnesau i fynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws.

Yn yr Alban dim ond siopau sy’n gwerthu eitemau hanfodol – fel dillad, esgidiau, offer babanod, nwyddau cartref a llyfrau – fydd yn cael cynnig gwasanaeth clicio a chasglu.

Rhaid i gasgliadau hefyd fod yn yr awyr agored, gydag apwyntiadau wedi’u trefnu dros gyfnod o amser er mwyn osgoi ciwio.

Bellach does dim hawl gan siopau tecawê adael cwsmeriaid dan do, ac yn hytrach rhaid iddynt weithredu o ffenestr neu ddrws yn unig.