Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ailgyflwyno amserlen teithio hanfodol o ganlyniad i’r cyfyngiadau llymach sydd mewn grym ledled Cymru.

Bydd newidiadau i’r amserlen yn cael eu cyflwyno ar draws y rhwydwaith o ddydd Llun (Ionawr 25) ymlaen.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei bod yn blaenoriaethu diogelwch cwsmeriaid sy’n dal i deithio am resymau hanfodol a chydweithwyr ar y rheilffordd, tra’n darparu gwasanaeth mor ddibynadwy â phosibl.

Bydd newidiadau byr rybudd yn cael eu gwneud, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu canslo.

“Amserlen ddiwygiedig yn helpu i leihau’r risg”

Ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog unrhyw un sy’n gwneud teithiau hanfodol i sicrhau “bod manylion eich taith yn gywir ymlaen llaw ac ar y diwrnod ei hun”.

Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru : “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n darparu gwasanaeth priodol i ddiwallu anghenion y cwsmeriaid hynny sy’n gwneud teithiau hanfodol gyda ni a’n bod yn eu cadw nhw a’n cydweithwyr yn ddiogel.

“Bydd yr amserlen ddiwygiedig yn helpu i leihau’r risg i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr ond mae dal yn golygu ein bod ni’n gallu darparu gwasanaeth da i weithwyr allweddol ac i’r rheini sydd ei angen ar gyfer teithiau hanfodol.

“Fel pob rhan o gymdeithas, rydyn ni wedi cael ein taro gan Covid-19 ac rydyn ni’n ymwybodol o’r effaith ofnadwy y mae’n gallu ei chael ar ein cydweithwyr a’u teuluoedd, felly rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i atal y feirws rhag lledaenu.

“Os yw eich taith yn hanfodol, gwnewch yn siŵr bod manylion eich taith yn gywir ymlaen llaw ac ar y diwrnod ei hun.”