Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart wedi ymddiheuro ar ôl i’r Trysorlys gyhoeddi’n anghywir y byddai Cymru’n derbyn £227 miliwn mewn cymorth coronafeirws ychwanegol.
Dywedodd wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin heddiw (14 Ionawr) nad oedd y ffigwr “yn arian newydd” ac yn lle hynny ei fod yn rhan o’r £5.2 biliwn o gyllid adfer Covid-19 sydd eisoes wedi’i ddyrannu i Gymru.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £227 miliwn o gymorth busnes ychwanegol ond daeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod y cyllid yn rhan o becyn a ddyrannwyd eisoes i Gymru ers dechrau’r pandemig.
Dywedodd Mr Hart: “Rwy’n derbyn nad yw’r negeseuon hyn bob amser yn berffaith y tro cyntaf ac rwy’n sylweddoli fod hynny’n achosi rhywfaint o ddryswch.
“Ond rwy’n gobeithio, yng nghyd-destun y cyfraniad ariannol cyffredinol a wnaed ar draws y Deyrnas Unedig gyfan i geisio helpu pobl drwy’r argyfwng hwn, fod pawb yn deall nad oes unrhyw falais wedi’i fwriadu yn hynny.”
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig pwysleisio nad oedd hynny’n [arian] newydd, ac mae’n ddrwg gen i os cafodd unrhyw un yr argraff mai arian newydd ydoedd.”
“Nid dyna’r ffordd i gynnal busnes ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig”
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddiffyg tryloywder dros gyllid coronafeirws.
Dywedodd fod angen i’r Trysorlys fabwysiadu “mwy o gywirdeb a thryloywder” dros y ffordd y caiff cyhoeddiadau eu gwneud a’u beirniadu am wneud penderfyniadau ar yr 11eg awr.
“Fe wnaeth y Trysorlys gyhoeddiad a chlywais i ar y radio bod £227 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru,” meddai Mr Drakeford wrth y Senedd ddydd Mawrth (Ionawr 12).
“Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n newyddion da iawn, byddem wedi gallu ei ddefnyddio i ychwanegu at y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
“Yna, daeth i’r amlwg ychydig oriau’n ddiweddarach nad oedd hwn yn arian ychwanegol o gwbl, a’i fod gennym ni’n barod.
“Nid dyna’r ffordd i gynnal busnes ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.”
Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio gwario’r arian maen nhw wedi ei gael
Yn ddiweddarach yn sesiwn y Bwyllgor Materion Cymreig, dywedodd yr Is-Ysgrifennydd Gwladol, David TC Davies, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin:
“Rydym yn ymwybodol bod arian sydd wedi cael ei anfon i Lywodraeth Cymru heb gael ei wario hyd yma.”
“Felly, fel yn achos y brechlyn, dw i ddim yn credu bod problem wrth ddarparu cyflenwadau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru ac nid wyf am bwyntio bys – ond dim ond yn darparu’r arian a darparu’r brechlyn all Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud.
“Ni allwn fod yn gyfrifol am sut mae’r arian yna’n cael ei wario a sut mae’r brechlyn yn cael ei ddosbarthu.”
Gofynnodd Stephen Crabb a fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi disgwyl i Lywodraeth Cymru wario’r arian yn ei gyfanrwydd.
“Byddwn yn ategu’r hyd ddywedodd ef [David Davies],” meddai Simon Hart, “Mae amser y brin, ac fel yr ydyn i gyd wedi gweld yn ein hetholaethau mae pobol ar ffyrlo ac mae busnesau’n wynebu trafferthion ac yn pendroni pryd fydd cefnogaeth ar gael.
“Rwyf yn ceisio siarad â Ken Skates bron pob wythnos ac mae ef yn deall y pwysau sydd ar bawb ac rydym yn parhau i alw arno i wario’r arian hwn gyn gynted â phosibl.”
Galw am bwerau benthyg i Gymru
Dywedodd Geraint Davies, AS Llafur Gorllewin Abertawe: “Ysgrifennydd Gwladol, fe ddywedoch ei bod hi’n bwysig nad yw Cymru’n eistedd ar arian a bod ganddyn nhw £1bn wrth gefn.
“Ond o’r hyn rwyf yn ei ddeall, mae gan y Deyrnas Unedig £25bn wrth gefn ar gyfer Covid… a gan nad yw Llywodraeth Cymru’n gallu benthyg, ni all wario’r arian gyda sicrwydd ei fod wedi’i gyfro rhag ofn bod newidiadau cyflym.
“Felly, a wnewch chi bwyso ar y Llywodraeth i ganiatáu Llywodraeth Cymru i fenthyg arian fel ei bod yn gallu gwario’r arian sydd wedi cael ei ddarparu heb redeg allan o arian?”
Dywedodd Simon Hart ei fod yn codi “pwynt diddorol”.
“Ond os yw’r hyn rwyt ti’n ei godi’n gywir, dw i’n synnu nad ydi Llywodraeth Cymru wedi codi’r pwynt yma eisoes.”