Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhuddo AoS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, o ddweud “celwydd”, gan alw arno i “gefnogi ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

Daw hyn ar ôl i Darren Millar gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio darparu cyfradd deg o frechlynnau’r coronafeirws i Fwrdd Iechyd Cadwaladr yn y Gogledd.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi honni mai dim ond 17% o’r brechlynnau gafodd eu dosbarthu yng Nghymru hyd at Ionawr 8 yr oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi eu derbyn, er bod ganddo 22% o boblogaeth y wlad.

Mewn trydariad sydd bellach wedi cael ei ddileu, dywedodd Darren Millar: “Mae angen i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i anwybyddu Gogledd Cymru a rhoi’r brechlynnau sydd eu hangen arnom i amddiffyn pobol sy’n agored i niwed.”

Wrth ymateb i’r Trydar, galwodd Vaughan Gething y dyfyniad “yn anonest ac yn rhwygol” cyn dweud wrth Darren Millar i “stopio dweud celwydd”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Cymru’n derbyn cyfran o gyflenwad o frechlynnau wedi’i gaffael ar sail pedair gwlad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r rhaniad rhwng Byrddau Iechyd Cymru yn seiliedig ar faint cymharol y boblogaeth flaenoriaeth ym mhob un o’r ardaloedd hyn.

“Mae gwahaniaethau yn y dyraniad presennol yn deillio o lefelau stoc a dderbyniwyd hyd yma, a chapasiti’r canolfannau brechu sy’n gweithredu o fewn pob Bwrdd Iechyd.”

Galw am ddosbarthu brechlyn Covid-19 yn ôl y galw yn hytrach nag yn ôl y boblogaeth

Lleu Bleddyn

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, dylai fformiwla sy’n targedu pobol hŷn a’r grwpiau mwyaf bregus gael ei ddefnyddio yn hytrach na fformiwla Barnett