Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi beio system iechyd Cymru am yr arafwch o ran cyflwyno brechlynnau Covid-19 o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd bod gan system iechyd Cymru “swm sylweddol” o frechlynnau coronafeirws a allai fod wedi cael eu gweinyddu eisoes.
Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf am frechu cyfran lai o’i phoblogaeth na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Clywodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin mai 3,215 fesul 100,000 o bobl oedd y gyfradd frechu o ran y dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru.
Mae hyn yn cymharu â 3,514 yn yr Alban, 4,005 yn Lloegr a 4,828 yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd Simon Hart fod tua 300,000 o frechlynnau wedi’u danfon i Gymru a bod bron i 115,000 wedi’u rhoi i bobol.
“Rhywle yn y system yng Nghymru mae nifer sylweddol o frechlynnau wedi’u darparu nad ydynt wedi’u rhoi i naill ai feddygfeydd neu leoliadau clinigol eraill lle gallent gael eu darparu,” meddai.
“Felly dydw i ddim yn gwybod pam mae hynny’n wir. Y cyfan rwy’n ei wybod yw bod y 300,000 o frechlynnau wedi’u danfon ac eto dim ond tua thraean o’r rheini sydd wedi’u rhoi.
“Dydw i ddim mewn sefyllfa i ateb pam y gallai hynny fod.”
“Gall wastad fod yn well, gall wastad fod yn gyflymach, a gall wastad fod yn fwy trylwyr”
Roedd Simon Hart yn cael ei holi gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, ei gyd-Geidwadwr Stephen Crabb AS, a ofynnodd iddo a oedd problem gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran darparu brechlynnau i Gymru.
“Gall wastad fod yn well, gall wastad fod yn gyflymach, a gall wastad fod yn fwy trylwyr,” meddai Simon Hart.
“Ni fyddwn yn fodlon nes bod pawb wedi’i gael o fewn yr amserlen fyrraf bosibl.
“Wrth gwrs, byddai’n rhaid i chi ofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn cael ateb cynhwysfawr i’ch cwestiwn.”
Disgwyl i 700,000 o bobol yng Nghymru gael pigiad erbyn canol mis Chwefror
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfaddef bod rhaglen frechu’r wlad wedi bod yn arafach nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond mae wedi addo gwneud “camau sylweddol” yn y broses o’i chyflwyno.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod disgwyl i 700,000 o bobl gael pigiad erbyn canol mis Chwefror.
Roedd 112,973 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf yng Nghymru ddydd Iau (Ionawr 14), sef cyfanswm o tua 3.5% o’r boblogaeth.
“Dyma’r un sefyllfa ag yng ngweddill y Deyrnas Unedig”
Wrth ymateb i sylwadau Simon Hart, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Yn ystod mis Rhagfyr, cafodd Cymru dros 250,000 dos o’r brechlyn Pfizer.
“Cyn Rhagfyr 30, roedd rheolau’r MHRA (y rheoleiddiwr) yn golygu bod yn rhaid cadw 50% o’r brechlynnau hyn wrth gefn ar gyfer ail ddos.
“Newidiodd yr MHRA ei safbwynt a dywedodd y gellid rhoi’r ail ddos hyd at 12 wythnos ar ôl y cyntaf.
“Mae hyn yn golygu y gallwn yn awr ddefnyddio’r holl frechlynnau Pfizer presennol. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn rhaid i ni gadw 50% o frechlynnau mewn cronfeydd wrth gefn mwyach.
“Dyma’r un sefyllfa ag yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac rydym yn disgwyl defnyddio’r holl stoc hwn erbyn canol mis Chwefror.
“Mae byrddau iechyd yn derbyn dyraniad wythnosol yn seiliedig ar gyfran poblogaeth grwpiau blaenoriaeth i fodloni’r amserlen hon.”