Bydd teithio i’r Deyrnas Unedig o Dde America i gyd, yn ogystal â Phortiwgal, yn cael ei wahardd o 4am ddydd Gwener oherwydd pryderon ynghylch amrywiolyn o’r coronafeirws ym Mrasil, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Daw hyn wedi i Boris Johnson ddweud ei fod yn “bryderus” am yr amrywiolyn.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Grant Shapps AS, fod y “penderfyniad brys” i gyfyngu ar hedfan o’r gwledydd hynny wedi’i wneud i leihau lledaeniad y straen newydd, gydag arbenigwyr yn ansicr pa mor effeithiol fydd y brechlynnau presennol yn ei erbyn.
Ond bydd gwladolion Prydeinig a Gwyddelig ac eraill sydd â hawliau preswylio yn cael eu heithrio o’r mesur, sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth yr Alban – er y bydd yn rhaid iddynt hunanynysu am 10 diwrnod ynghyd â gweddill eu haelwydydd.
Ynghyd â chenhedloedd gan gynnwys yr Ariannin, Colombia a Venezuela, bydd Panama a a Cape Verde hefyd yn cael eu cynnwys yn y gwaharddiad.
Dywedodd Mr Shapps fod teithio o Bortiwgal yn cael ei atal oherwydd ei “chysylltiadau teithio cryf â Brasil”, ond bydd eithriad i gludwyr sy’n teithio o Bortiwgal er mwyn peidio atal cludo nwyddau hanfodol.
Roedd Brasil eisoes wedi atal teithiau hedfan o’r Deyrnas Unedig, neu drwyddi, ers Rhagfyr 25 ynghylch pryderon am y straen hynod heintus o’r coronafeirws sydd wedi’i olrhain yn ôl i Gaint.