Fe fydd teithiau i’r Deyrnas Unedig o Dde America a Phortiwgal yn cael eu gwahardd o 4yb heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 15) yn dilyn pryderon am amrywiolyn newydd o’r coronafeirws ym Mrasil, meddai’r Llywodraeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps bod y “penderfyniad brys” i wahardd teithiau o Dde America a Phortiwgal wedi cael ei wneud er mwyn ceisio atal lledaeniad posib yr amrywiolyn newydd o’r firws.

Mae arbenigwyr yn ansicr ar hyn o bryd pa mor effeithiol fydd y brechlyn Covid i amddiffyn yn erbyn yr amrywiolyn newydd.

Mesur “rhagofal”

Ond fe fydd dinasyddion o Brydain, Iwerddon ac eraill sydd â hawliau dinasyddiaeth yn cael eu hepgor o’r mesur er y bydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu am 10 diwrnod ynghyd ag aelodau eraill yr aelwyd.

Yn ôl  Grant Shapps mae’n fesur “rhagofal” wrth i’r rhaglen frechu fynd rhagddi ar draws y Deyrnas Unedig.

Ynghyd a gwledydd fel yr Ariannin, Colombia a Venezuela, fe fydd Panama a Cape Verde hefyd yn cael eu cynnwys yn y gwaharddiad.

Dywedodd Grant Shapps bod teithiau o Bortiwgal hefyd yn cael eu gwahardd oherwydd ei “chysylltiadau teithio gyda Brasil” ond fe fydd gyrwyr loriau sy’n teithio o Bortiwgal yn cael dod i’r DU er mwyn cludo nwyddau hanfodol.

“Llanast llwyr”

Yn y cyfamser mae’r Llywodraeth yn wynebu beirniadaeth am ohirio cyflwyno gorfodaeth ar deithwyr sy’n cyrraedd Lloegr i gael prawf Covid-19 negyddol cyn iddyn nhw adael ar eu taith.

Dywedodd Grant Shapps bod y rheolau wedi cael eu gohirio “er mwyn rhoi cyfle i deithwyr rhyngwladol baratoi.”

Roedd disgwyl i’r rheolau newydd ddod i rym am 4yb heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 15). Ond mae wedi cael ei ohirio tan ddydd Llun yn dilyn pryder nad oedd digon o wybodaeth ynglŷn â pha brofion fyddai’n cael eu derbyn.

Yn ôl y Blaid Lafur mae’r penderfyniad i ohirio’r mesurau newydd yn “llanast llwyr”.