Mae economi’r Deyrnas Unedig mewn perygl o fod mewn dirwasgiad arall wrth i ffigurau swyddogol ddangos crebachiad ym mis Tachwedd ar ôl i Loegr gyhoeddi ail gyfnod clo.

Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) y DU wedi crebachu 2.6% hyd at fis Tachwedd.

Roedd GDP ar ddiwedd y mis 8.5% yn is na’r hyn oedd cyn y pandemig ond mae disgwyl gostyngiad pellach ar ôl i’r trydydd cyfnod clo ddod i rym ym mis Ionawr.

Daeth y gostyngiad ym mis Tachwedd wedi chwe mis o dwf, gan gynnydd 0.6% ym mis Hydref.

Mae economegwyr wedi rhybuddio bod y DU yn wynebu dirwasgiad os yw’r cyfyngiadau yn parhau mewn lle am dri mis cyntaf 2021.