Mae chwyddiant wedi dyblu o 0.3% i 0.6% ers mis diwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Daw hyn ar ôl i fusnesau gael eu taro dros gyfnod y Nadolig yng nghanol y cyfyngiadau coronafeirws.

Cododd pris dillad rywfaint yn ystod y mis, o gymharu â’r gostyngiad arferol sydd i’w weld yn y cyfnod hyd at Ddydd San Steffan, ond roedd prisiau wedi gostwng o edrych ar y flwyddyn gyfan.

Fe wnaeth y galw am gemau a pheiriannau cyfrifiadurol yn ogystal â nwyddau eraill i blant gynyddu chwyddiant, gyda chwyddiant hamdden a diwylliant ar ei uchaf ers mis Awst y llynedd.

Yn ôl Jonathan Athow, dirprwy ystadegydd cenedlaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth pris dillad roi “pwysau cynyddol” ar chwyddiant.

Mae’n dweud bod costau teithio a phris petrol godi wrth i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio, ac fe wnaeth prisiau bwyd yn iawn am hyn i raddau, yn enwedig llysiau a chig.