Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7bn o gefnogaeth ers dechrau’r pandemig, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywed y Llywodraeth fod 178,000 o grantiau gwerth cyfanswm o £1bn wedi’u darparu drwy awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweinyddu cynlluniau ar ran y Llywodraeth, gan gynnwys y cynllun Ardrethi Annomestig, y Grant Dechrau Busnes a’r Gronfa Ddewisol.

Ac yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, mae’r cymorth ariannol hwn wedi diogelu llawer o swyddi a allai fod wedi’u colli fel arall.

Datgelodd hefyd fod arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o’r gronfa benodol i’r sector gwerth £180m a agorodd ddydd Mercher diwethaf (Ionawr 13).

Gall busnesau ddarganfod a ydyn nhw’n gymwys, a gwneud cais drwy fynd i wefan Busnes Cymru.

Ychwanega Ken Skates y gallai’r pecyn cymorth diweddaraf i fusnesau lletygarwch yng Nghymru sydd â’r hyn sy’n cyfateb i chwe aelod o staff llawn amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswm o £12,000 i £14,000 ac mai dyma’r cynnig mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig.

‘Pwysau a heriau digynsail’

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau a heriau digynsail ar ein heconomi a’n busnesau,” meddai Ken Skates.

“Mae cael mwy nag £1.7bn allan i’n cwmnïau wedi golygu ymdrech enfawr, yn enwedig gan ein hawdurdodau lleol.

“Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am bopeth maent wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i’n cefnogi i ddiogelu busnesau.

“Ein pecyn cymorth, sy’n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yw’r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r gymuned fusnes drwy’r cyfnod anodd hwn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.”