Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A4059 yn Aberdâr wedi talu teyrnged iddo.
Daw hyn ar ôl i Heddlu De Cymru gadarnhau mai Jamie Owen, 43 oed o Langatwg ger Castell-nedd, fu farw yn y gwrthdrawiad ddydd Sadwrn (Ionawr 16).
Cafodd Jamie Owen ei daro gan fan Ford Transit du wrth iddi deithio tua’r de ar hyd yr A4059 am tua 10.50yh, rhwng cylchfan Trecynon, a chylchfan Trerobert.
Cafodd gyrrwr y fan, sy’n 30 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ac mae bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Teyrnged
“Roedd Jamie yn fab, tad a brawd cariadus a bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei golli’n fawr,” meddai ei deulu.
“Rydym ni fel teulu yn cael cysur wrth glywed gymaint roedd cynifer o bobol yn meddwl ohono.
“Rydym yn cofio’r blynyddoedd lawer y bu’n gweithio i gwmni cynnal a chadw lleol yng Nghastell-nedd ac roedd yn cael ei ystyried yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’r tîm.
“Roedd wrth ei fodd yn gweithio yn y gymuned… cyfarfod pobol oedd ei angerdd.
“Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl weithwyr brys a geisiodd mor galed i’w helpu.”