Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cael ei uchelgyhuddo gan Dy’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau am yr eildro.
Donald Trump yw’r Arlywydd cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau i gael ei ddwyn i gyfraith ddwywaith.
Mae’r Arlywydd wedi cael ei gyhuddo o annog terfysg ar ôl i’w gefnogwyr feddiannu adeiladau’r Senedd yn Capitol Hill. Bu farw pump o bobl yn y terfysg wythnos yn ôl. Roedd Donald Trump wedi annog ei gefnogwyr i frwydro yn erbyn canlyniad yr etholiad arlywyddol gan wneud honiadau eto o dwyll etholiadol.
Roedd Tŷ’r Cynrychiolwyr wedi pleidleisio 232-197 o blaid uchelgyhuddo Trump.
Roedd 10 o Weriniaethwyr wedi ymuno a’r Democratiaid yn galw am ddwyn Trump i gyfraith gyda llefarydd y Tŷ Nancy Pelosi yn rhybuddio bod “perygl” os yw’n aros yn ei swydd cyn i’r Democrat Joe Biden gael ei urddo’n arlywydd ar Ionawr 20.
Yn ddiweddarach roedd Donald Trump wedi rhyddhau fideo yn apelio ar ei gefnogwyr i beidio defnyddio trais nac amharu ar y broses o urddo Joe Biden. Nid oedd wedi son am gael ei uchelgyhuddo.
Cafodd Donald Trump ei uchelgyhuddo y tro cyntaf gan Dy’r Cynrychiolwyr oherwydd ei gysylltiadau gyda’r Wcráin ond fe bleidleisiodd y Senedd yn 2020 i ollwng y cyhuddiadau.
Fe allai’r achos yn ei erbyn ddechrau ddydd Mawrth nesaf, diwrnod cyn y mae disgwyl i Trump adael y Tŷ Gwyn. Pwrpas y ddeddfwriaeth hefyd fyddai atal Trump rhag ymgeisio am yr arlywyddiaeth eto.