Mae Llywodraeth Cymru gam yn nes at ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth San Steffan.

Fis diwetha’, cafodd ‘Bil y Farchnad Fewnol’ ei basio yn Llundain er gwaetha’ gwrthwynebiad chwyrn gan seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ac wrth ymateb i hynny, mi wnaeth Llywodraeth Cymru anfon llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn bygwth camau cyfreithiol.

Daeth ymateb gan Lundain, ond yn ôl Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd, doedd yr ymateb ddim yn rhoi “sylw digonol i unrhyw rai o’n pryderon”.

Bellach, mae wedi rhoi diweddariad i Aelodau o’r Senedd ynghylch y camau nesaf.

“Heddiw, rwyf wedi dwyn achos ffurfiol yn y Llys Gweinyddol i geisio caniatâd am adolygiad barnwrol,” meddai wrth Aelodau o’r Senedd brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 19).

“Rydym yn cydnabod yr anawsterau sy’n wynebu’r Senedd yn sgil yr ansicrwydd y mae’r Ddeddf hon yn ei greu o ran gallu’r Senedd i ddeddfu.

“Rwyf felly wedi gofyn i’r achos ddilyn y broses gyflym ond mater i’r Llys yw hynny yn llwyr.

“Rwyf wedi cynnig amserlen i’r Llys a fyddai’n golygu bod yr achos hwn yn cael ei glywed yn ystod wythnos olaf mis Mawrth 2021.”

Beth sy’n bod â’r ddeddf?

Mae Llywodraeth San Steffan yn dadlau y bydd ‘Deddf y Farchnad Fewnol’ yn sicrhau masnach lefn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig, yn dilyn Brexit.

Ond mae gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig yn mynnu y bydd y ddeddf hon yn sathru ar eu pwerau, ac yn canoli rhagor o rymoedd yn Llundain.

Wrth siarad ag Aelodau o’r Senedd, mae Jeremy Miles wedi dweud bod y ddeddf yn gwanhau Senedd Cymru ar y naill law, ac yn rhoi rhagor o bŵer i Lywodraeth San Steffan ar y llaw arall.

Mewn cyfweliad diweddar â Golwg dywedodd fod y ddeddf yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli”.