Wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd mae cwmnïau teledu yng Nghymru wedi colli mynediad at arian grant “sylweddol”, ac yn ei le wedi ennill mynydd o waith papur a chostau teithio ychwanegol.

Dyna farn Cyfarwyddwr Masnachol Rondo Media – cwmni teledu sy’n gweithio ar draws y byd ac ar draws ffiniau, ac yn cynhyrchu Rownd a Rownd a Sgorio i S4C.