Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ei feirniadu am ei sylwadau oedd yn awgrymu bod y broses frechu yn cael ei ymestyn dros chwe wythnos – yn hytrach na defnyddio’r brechlynnau cyn gynted â phosib.

Roedd y Prif Weinidog wrthi’n amddiffyn y drefn yng Nghymru – a dywedodd mai ymestyn y drefn oedd y peth “synhwyrol” i’w wneud gan fod y cyflenwad, a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gyfyngedig.

“Nid oes diben, ac yn sicr byddai’n gwneud niwed logistaidd, i ddefnyddio ein holl frechlynnau yn yr wythnos gyntaf gan olygu bydd pobol sy’n rhoi’r brechiadau yn gorfod sefyll o gwmpas heb ddim i’w wneud,” meddai wrth BBC Radio 4.

O gymharu â gwledydd eraill Prydain, Cymru sydd wedi brechu’r nifer lleiaf o bobol hyd yn hyn.

‘Synhwyrol’

Eglurodd y Prif Weinidog na fyddai Cymru’n cael cyflenwad pellach o’r brechlyn Pfizer tan fis Chwefror ac felly, meddai, “y peth synhwyrol i’w wneud yw defnyddio’r brechlyn sydd gennym dros y cyfnod yma er mwyn gwneud yn siŵr y gall ein system barhau i weithio.

“Rydym ar y trywydd iawn i frechu’r pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, ochr yn ochr â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.”

Mae 26,000 dos o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca, oedd fod i’w hanfon at fyrddau iechyd yng Nghymru’r wythnos hon, hefyd wedi’u gohirio.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd dros 150,000 o bobl wedi eu brechu ddydd Llun Ionawr 18.

“Mae llawer i’w wneud eto – byddwn yn gwneud hyn am fisoedd a misoedd, nid dim ond am wythnosau,” ychwanegodd y Prif Weinidog.

“Mae’n bwysig iawn cael yr holl seilwaith yn ei le ac rydym eisoes wedi ehangu nifer y canolfannau brechu torfol.

“Ar hyn o bryd, y peth sy’n ein cyfyngu yw maint y cyflenwad yn unig. Gallem frechu mwy o bobl nag y brechlynnau sydd gennym.

“Pan fyddwch chi’n ceisio gwneud popeth ar raddfa fawr ac ar gyflymder o’r fath bydd adegau lle nad yw popeth yn mynd yn iawn.”

‘Rhywbeth o’i le wrth wraidd y strategaeth’

Wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod sylwadau Mark Drakeford yn dangos bod “rhywbeth o’i le wrth wraidd” ei strategaeth.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Cyn i’r Prif Weinidog siarad am ddal y brechlyn yn ôl, roeddwn wedi mynegi pryderon gwirioneddol am gyflymder y cyflwyno yng Nghymru a’r strategaeth ar gyfer sicrhau’r cyflwyno mwyaf effeithiol yng Nghymru.

“Yr hyn y mae sylwadau’r Prif Weinidog yn ei wneud yw dwysáu fy mhryderon bod rhywbeth o’i le wrth wraidd strategaeth frechu Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i ni wybod beth yw’r strategaeth honno gydag eglurder llwyr. Ac ar hyn o bryd, fel gweinidog iechyd cysgodol, rwy’n ei chael hi’n anodd iawn gweld ble mae’r broblem: Ai ni sy ddim yn cael ein cyflenwadau? A yw’n cael ei ddosbarthu i fyrddau iechyd yn effeithiol ac yn gyfartal? Neu a yw’r broblem ar lawr gwlad.

“O’m profiad i, o siarad â’r rhai a fyddai’n helpu i ddarparu’r brechlyn, meddygon teulu er enghraifft, maen nhw’n barod i fynd. Ond dydy’r brechlyn ddim ganddyn nhw.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod sylwadau’r Prif Weinidog Mark Drakeford na fyddai brechlyn coronafeirws Pfizer yn cael ei ddefnyddio i gyd ar unwaith yng Nghymru yn achosi “pryder diangen” i’r cyhoedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae gen i broblem go iawn gydag ef, achos dydw i ddim wedi clywed achos clinigol yn cael ei wneud dros pam mae angen i ni fod yn arafu cyflymder y cyflwyno. Mae popeth rwy’n ei weld [yn dweud y dylid] brechu cyn gynted â phosibl.

“Nid yw gwneud hyn yn gwneud synnwyr i mi. Mae’n achosi pryder diangen ac yn erydu ffydd gan bobl y bydd eu tro yn dod mewn da bryd.

“Yr oll mae pawb eisiau gwybod yw bod pethau’n symud cyn gynted â phosib yng Nghymru. Ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad yw pethau’n symud cyn gynted â phosib, ond eu bod yn symud cyn gynted ag y mae e wedi penderfynu y dylen nhw symud.”

‘Bywydau yn y fantol’

Mae Andrew RT Davies, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi rhybuddio y gallai penderfyniad y Prif Weinidog roi bywydau yn y fantol.

“Roeddwn wedi synnu i glywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bore ’ma yn amddiffyn ei benderfyniad i beidio defnyddio’r cyflenwad o’r brechlyn Pfizer,” meddai

“Mae bywydau a bywoliaethau ledled Cymru yn y fantol. Stopiwch yr esgusodion a gwnewch i hyn ddigwydd.

“P’un a fwriedir ai peidio, mae’r gonestrwydd yma gan y Prif Weinidog yn dweud y cyfan mae pobl yng Nghymru angen gwybod.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â chyflawni’r rhaglen frechu.”

“Fe’m syfrdanwyd gan ei sylwadau”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies AoS, ei fod wedi ei “syfrdanu” gan sylwadau Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Davies wrth asiantaeth newyddion PA: “Byddech wedi meddwl, o safbwynt llywodraeth, y bydden nhw wedi bod eisiau dosbarthu’r brechlynnau cyn gynted â phosib. Fe’m syfrdanwyd gan ei sylwadau.

“Mae hyn yn fater o fywyd a marwolaeth, a dyna pam mae mor hanfodol nawr eu bod yn cael y brechlynnau hyn allan i bobl cyn gynted â phosibl.

“Mae awgrymu y dylid cyflwyno brechlynnau dros gyfnod o amser fel nad yw brechlynnwyr yn sefyll o gwmpas heb ddim i’w wneud yn gwbl hurt.

“Os nad ydyn ni’n cael y brechlynnau allan cyn gynted â phosib, ac i freichiau pobl cyn gynted â phosib, yna yn anffodus mae mwy o bobl yn mynd i farw.”

“Bwrw ymlaen â’r gwaith”

Mae’r gymdeithas feddygol BMA Cymru hefyd wedi beirniadu strategaeth Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n pryderu’n fawr am y sylwadau rwyf wedi’u clywed heddiw ac yn cynghori Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y strategaeth,” meddai Dr David Bailey, Cadeirydd BMA Cymru.

“Mae’n wirioneddol ddryslyd bod y Prif Weinidog yn dweud nad oes diben defnyddio’r holl gyflenwadau mewn wythnos i sicrhau nad yw pobol sy’n brechu yn sefyll o gwmpas heb ddim i’w wneud.

“Mae staff rheng flaen yn peryglu eu bywydau i helpu eraill – rhaid rhoi’r flaenoriaeth i roi’r ail ddos i’r rhai sydd wedi derbyn y cyntaf, a chyflymu’r dosau cyntaf ar gyfer yr holl frechiadau sy’n weddill er mwyn sicrhau’r amddiffyniad mwyaf posibl i staff a chleifion.

“Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i eistedd ar gyflenwadau a bwrw ymlaen â’r gwaith.”

Negeseuon dryslyd

Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn y dydd, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw oedi cyn dosbarthu brechlynnau.

“Nid ydym yn gohirio defnyddio brechlyn Pfizer i unrhyw un yng Nghymru, ac rydym mor awyddus ag unrhyw un i gael y brechiadau hynny allan,” meddai.

“Cyn gynted ag y daethom yn ymwybodol yn y Llywodraeth, ar 4 Ionawr, y gallem symud o gyfundrefn dos dwbl i un dos, rydym wedi bod yn cynyddu’r gallu i ddarparu’r brechiad hwnnw cyn gynted ag y gallwn.

“Oherwydd y cyfyngiadau ar storio a symud y brechlyn Pfizer, y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny yw drwy ganolfannau brechu torfol.

“Yn amlwg mae angen i ni fynd hyd yn oed yn gyflymach ond mae angen i ni wneud hynny mewn ffordd sy’n manteisio i’r eithaf ar yr adnodd gwerthfawr hwnnw ac nad yw’n arwain at wastraffu unrhyw frechlynnau.

“Rydym yn disgwyl gweld cyflenwadau cynyddol o Rydychen/AstraZeneca yn dod i Gymru yr wythnos hon a’r wythnos nesaf.

“O gyflenwadau Rhydychen/AstraZeneca sydd gennym eisoes, mae tua 95% o’r stoc honno eisoes wedi’i defnyddio.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod 152,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechiad cyntaf, tua 5% o’r boblogaeth.

“Rwy’n hyderus ein bod yn parhau ar y trywydd iawn i sicrhau y bydd pawb yn y pedwar grŵp brechu gorau – hynny yw pawb o 70 oed a hŷn a’r rhai a oedd gynt yn gwarchod eu hunain – yn cael eu brechu erbyn canol mis Chwefror.”

Trydar

Ac y prynhawn yma, yn dilyn yr ymateb i sylwadau Mr Drakeford, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio egluro’r sefyllfa drwy gyfres o negeseuon ar Twitter.

Eglurodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw ar y trywydd iawn i gynnig y brechlyn i bawb dros 50 oed a phawb sy’n wynebu risg oherwydd cyflwr iechyd erbyn y gwanwyn.

“Dydyn ni ddim yn dal unrhyw frechlynnau yn ôl,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Rhaid storio’r brechlyn Pfizer ar dymheredd isel iawn – ar -70°C – mewn dwy ganolfan arbennig. Ar ôl ei dynnu o’r lle storio, mae’r brechlyn yn para pum diwrnod.

“Mae pob dos sy’n cael ei wastraffu yn frechlyn na ellir ei roi i rywun yng Nghymru.

“Llai na 1% o frechlynnau sydd heb eu defnyddio. Mae hyn yn llawer llai na’r lefelau gwastraff a welir fel arfer gyda brechlynnau.”

Yn ogystal â’ 45 o ganolfannau brechu torfol mae disgwyl i nifer y meddygfeydd sy’n darparu’r brechlynnau gynyddu o 100 i 250 erbyn diwedd mis Ionawr.

“Wrth i’r cyflenwad gynyddu, bydd mwy a mwy ohonynt ar agor yn hirach ac am 7 diwrnod yr wythnos,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol ym mrechlyn Rhydychen-AstraZeneca o’r wythnos hon. Cawsom tua 45,000 dos yn ystod y pythefnos cyntaf.”

Ffigurau diweddaraf

Fe fu 20 yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig i 4,294, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (Dydd Llun, Ionawr 18).

Fe fu 1,332 o achosion pellach o’r coronafeirws yng Nghymru, gyda chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau bellach yn 181,493.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 151,737 o bobl bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid a bod 201 o bobl wedi derbyn ail ddos hyd yn hyn.