Mae Cynghorydd Tref Llanbedr Pont Steffan, Elin Tracey Jones, wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad, yn dilyn honiadau o fwlio.
Mewn neges gafodd ei rannu ar ei thudalen Facebook, dywedodd ei bod wedi profi mwy o fwlio yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd, nag erioed o’r blaen.
Ers dod yn aelod yn 2015, dywedodd ei bod wedi derbyn nifer o sylwadau annerbyniol yn ymwneud a’i hoed a’i rhyw yn ogystal â chamdriniaeth gwrth-semitig.
“Cyflawni nifer o bethau rwy’n falch ohonynt”
“Rwyf wedi cyflawni nifer o bethau rwy’n falch ohonynt dros y pum mlynedd ddiwethaf,” eglura yn y neges, “gan gynnwys gwaith adnewyddu Parc yr Orsedd a’r symudiad Black Lives Matter.
“Mae cydraddoldeb a chynrychiolaeth yn rhan ganolog o’m gweledigaeth wleidyddol a moesegol.
“Er hynny, dros y pum mlynedd ddiwethaf rwyf wedi derbyn mwy o sylwebaeth ar sail rhyw, sylwadau’n ymwneud ag oed, camdriniaeth gwrth-semitig ac wedi profi mwy o fwlio nag erioed o’r blaen, gan aelodau’r Cyngor Tref a’r gymuned leol, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.”
Dywedodd bod y camdriniaeth o’r fath wedi cael effaith niweidiol ar ei hiechyd a’i lles.
“Rwy’n berson gweithgar, ymunodd a’r Cyngor Tref er mwyn sicrhau bod lleisiau nad oedd yn cael sylw, yn cael eu gweld a’u clywed,” meddai.
“Dymuno’n dda i’r Cyngor Tref ar gyfer y dyfodol”
Mae’r neges yn estyn diolch i Emma Wood, Gary Thorogood a Richard Marks am fod yn gynghorwyr tref “rhagorol” a dywedodd Elin Jones ei bod yn ddiolchgar i Glerc y Dref, Meryl Thomas am ei gwaith.
Ychwanegodd y cyn-gynghorydd y byddai’n parhau gyda’i gwaith gwleidyddol gyda Phlaid Cymru a’i gwaith gyda Shelter Cymru.
“Rwy’n dymuno’n dda i’r cyngor tref ar gyfer y dyfodol,” meddai.