Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, wedi galw ar Rwsia i ryddhau arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny, ar unwaith ar ôl iddo gael ei arestio ym Mosgo.
Cafodd Alexei Navalny ei arestio ym maes awyr Mosgo ddydd Sul (Ionawr 17) ar ôl treulio pum mis yn yr Almaen yn cael triniaeth ar ôl iddo gael ei wenwyno gyda Novichok. Mae wedi rhoi’r bai ar wasanaeth cudd-wybodaeth Rwsia, yr FSB, am ei wenwyno.
Dywedodd Dominic Raab ei fod yn “warthus” bod Alexei Navalny wedi cael ei arestio gan yr awdurdodau yn Rwsia a bod angen ei ryddhau ar unwaith.
Mae’r digwyddiad wedi cael ei gondemnio gan lywodraethau yn fyd-eang gyda’r Undeb Ewropeaidd, yr Almaen a’r Unol Daleithiau yn beirniadu penderfyniad Rwsia i’w arestio.
Cyn i Alexei Navalny gyrraedd maes awyr Mosgo, roedd gwasanaeth carchardai Rwsia wedi dweud ei fod wedi torri amodau ei barôl yn dilyn dedfryd wedi’i gohirio yn 2014 am ddwyn.
Yn ôl swyddogion, fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes bod llys yn gwneud dyfarniad am yr achos.