Mae 26,000 dos o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca, oedd i fod i’w hanfon at fyrddau iechyd yng Nghymru’r wythnos hon, wedi’u gohirio, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Roedd disgwyl i Gymru dderbyn 100,000 dos o’r brechlyn yr wythnos hon ond mae tua chwarter wedi’u gohirio ar ol methu profion rheoleiddwyr.
“Ni ddaeth un o’r cyflenwadau hyn drwy’r broses brofi ac rydym wedi cael gwybod y byddwn yn ei gael yr wythnos nesaf,” meddai Mark Drakeford wrth Sky News.
Nid yw hyn wedi effeithio ar dri chyflenwad arall o’r brechlyn, meddai.
“O’r gweithgynhyrchwyr i’r bobl sy’n darparu’r brechiad, mae pawb yn gweithio’n galed iawn,” meddai.
“Pan fyddwch chi’n ceisio gwneud popeth ar raddfa fawr ac ar gyflymder o’r fath bydd adegau lle nad yw popeth yn mynd yn iawn.
“Ond rydym yn sicr y byddwn yn cael y cyflenwad newydd hwnnw oedd fod wythnos yma erbyn wythnos nesaf, a byddwn yn gallu defnyddio’r cyfan bryd hynny.”
150,000 wedi eu brechu
Yn ôl y Prif Weinidog bydd tua 150,000 o bobl wedi cael eu brechu yng Nghymru erbyn diwedd dydd Llun (Ionawr 18).
“Rydyn ni’n cael mwy o gyflenwadau o’r brechlyn yr wythnos hon, yn enwedig brechlyn Rhydychen a byddwn ni’n gallu defnyddio hynny i gyd,” meddai Mark Drakeford.
“Rydym ar y trywydd iawn i frechu’r pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, ochr yn ochr â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
“Mae llawer i’w wneud eto – byddwn yn gwneud hyn am fisoedd a misoedd, nid dim ond am wythnosau.
“Felly mae’n bwysig iawn cael yr holl seilwaith yn ei le ac rydym eisoes wedi ehangu nifer y canolfannau brechu torfol.”
Mae disgwyl i’r holl oedolion yng Nghymru gael cynnig brechlyn Covid erbyn yr hydref
Haneru nifer yr achosion
Dywedodd Mark Drakeford bod pethau’n “gwella’n araf” yng Nghymru.
Mae nifer yr achosion yng Nghymru wedi haneru ers y Nadolig – gyda chyfraddau i lawr o 650 o achosion fesul 100,000 i 300.
“Rwy’n credu ei fod wedi dangos bod pethau yn dechrau sefydlogi a’n bod yn dechrau troi cornel,” meddai.
Eglurodd fod y ffigurau newydd yn cyfiawnhau cyflwyno’r cyfyngiadau diweddaraf cyn y Nadolig yn hytrach nag ar ôl yr ŵyl.
“Cawsom ein taro’n wael cyn y Nadolig oherwydd cyfuniad o resymau,” meddai wrth BBC Radio 4.
“Yn sicr, roedd yr amrywiolyn newydd yn cael effaith ar y niferoedd cyn i ni sylweddoli bod yr amrywiolyn newydd yma.
“Ein poblogaeth – hŷn, mwy sâl, tlotach, sy’n byw’n agos at ei gilydd mewn cymunedau clos – does dim dwywaith mai dyna’r amodau yn ystod misoedd y gaeaf lle mae coronafeirws yn ffynnu, a gwelsom effaith hynny, ond dyna pam y gwnaethom weithredu’n gynnar.
“Rydym yn mynd i ddefnyddio ein deintyddion a’n fferyllwyr cymunedol i barhau i gynyddu nifer y brechiadau.
“Ar hyn o bryd, y peth sy’n ein cyfyngu yw maint y cyflenwad yn unig. Gallem frechu mwy o bobl nag y brechlynau sydd gennym.
“Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod hynny yn mynd i gynyddu’n gyflym dros yr wythnosau nesaf.”
O gymharu â gwledydd eraill Prydain, Cymru sydd wedi brechu’r nifer lleiaf o bobol.
- Gogledd Iwerddon: 4,825 o bob 100,000 wedi’u brechu
- Lloegr: 4,005 o bob 100,000 wedi’u brechu
- Yr Alban: 3,514 o bob 100,000 wedi’u brechu
- Cymru: 3,215 o bob 100,000 wedi’u brechu
“Mae y rhain yn wahaniaethau ymylol iawn a dydw i ddim yn credu mai dyma’r peth pwysicaf,” ychwanegodd Mark Drakeford.
“Y mater pwysicaf yw ein bod ar y trywydd iawn i ddarparu brechiad i’r pedwar prif grŵp blaenoriaeth, ochr yn ochr â holl wledydd eraill y Deyrnas Unedig, erbyn canol mis Chwefror.”