Bydd rheolau llymach ar gyfer archfarchnadoedd, siopau a gweithleoedd eraill yng Nghymru yn dod i rym yr wythnos hon.
Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae “tystiolaeth sylweddol” bod y coronafeirws yn lledaenu ymhlith cwsmeriaid a staff.
O dan y gyfraith newydd bydd rhaid i archfarchnadoedd a siopau gyfyngu ar nifer y siopwyr sydd yn y siop ar unwaith, arddangos arwyddion ymbellhau cymdeithasol a darparu glanweithydd ar gyfer dwylo a throlïau.
Mae’r rheolau newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener, 15 Ionawr, yn rhan o becyn o fesurau newydd yn dilyn pryderon mai amrywiolyn newydd o Covid-19 sydd y tu ôl i gynnydd sydyn mewn achosion ledled Cymru.
Busnesau yn gorfod cynnal asesiad risg penodol ar gyfer Covid-19
Bydd rhaid i fusnesau gynnal asesiad risg penodol ar gyfer Covid-19 er mwyn lleihau’r cyswllt rhwng pobol mewn llefydd fel archfarchnadoedd a gweithleoedd eraill.
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
- awyru digonol
- hylendid
- cadw pellter cymdeithasol
- defnydd o gyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb.
Bydd yr asesiad risg hefyd yn ystyried sut mae modd i gyflogwyr sicrhau bod cymaint â phosibl o bobol yn gweithio o gartref.
“Cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr”
Eglurodd y Prif Weinidog nad oedd dewis ond edrych eto ar reoleiddio gweithleoedd ac eiddo sy’n parhau ar agor i’r cyhoedd, oherwydd yr amrywiolyn newydd o’r feirws.
Ond mynnodd mai “cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr” yw sicrhau bod rheolau yn cael eu dilyn.
Dywedodd na ddylai’r cyfrifoldeb ddisgyn i weithwyr archfarchnadoedd yn dilyn adroddiadau bod rhai yn cael eu cam-drin am geisio gorfodi rheolau presennol.
“I fod yn gwbl glir, mae’n gwbl annerbyniol bod staff manwerthu sydd wedi gwneud cymaint i’n helpu ni i gyd yn ystod y pandemig hwn – mynd i’r gwaith bob dydd i wneud yn siŵr bod bwyd y gallwn ei roi ar y bwrdd – mae’n gwbl annerbyniol y dylai’r bobl hynny wynebu camdriniaeth yn y gweithle,” meddai.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ail asesu’r cyfyngiadau ddiwedd y mis, Ionawr 29.