Bellach mae’n rhaid i deithwyr sy’n dod i Gymru o dramor gael prawf coronafeirws negyddol cyn teithio, a mynd i gwarantîn am ddeng niwrnod ar ôl cyrraedd.
Os nad ydyn nhw’n cael prawf negyddol ni fydd modd teithio, a gallai person sydd yn torri’r rheolau gael dirwy o £500 pan yn cyrraedd Cymru.
Fe ddaeth y rheol newydd, sydd yn effeithio teithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar gychod, awyrennau neu drenau, i rym am 04:00 fore Llun, Ionawr 18.
Mae Gwledydd Prydain i gyd wedi cytuno ar yr un mesurau i ddiogelu rhag yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws, ac fe fyddan nhw mewn grym tan o leiaf Chwefror 15.
‘Atal mewnforio’r feirws’
Wrth gyhoeddi’r cyfyngiadau newydd wythnos ddiwethaf dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y Llywodraeth yn “gwneud popeth o fewn ei gallu” i arafu lledaeniad y coronafeirws.
“Bydd y mesurau newydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn atal mathau newydd o’r feirws rhag cael eu mewnforio i Gymru,” meddai.
“Yn ogystal â’r gofyniad i hunanynysu, bydd profion cyn gadael yn fesur diogelu arall i’n helpu i reoli’r feirws wrth i ni barhau i gyflwyno’r brechlyn yn gyflym.”
Ni chaniateir teithio am wyliau o dan rybudd lefel 4, boed hynny yng Nghymru, i fannau eraill yn y Deyrnas Unedig neu dramor.
Darllen mwy