Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi £40m o gyllid ychwanegol heddiw (dydd Llun, Ionawr 18) fel bod prifysgolion yn gallu helpu myfyrwyr sy’n wynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19 i dalu eu costau.

Bydd gofyn i brifysgolion flaenoriaethu’r myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf, gan gynnig mwy o gyngor a chefnogaeth i’w holl fyfyrwyr yn ystod y pandemig.

Wrth i fyfyrwyr barhau i ddilyn eu cyrsiau o’u cartrefi, bydd yr arian hefyd o gymorth wrth fynd i’r afael â ‘thlodi digidol’ a’u helpu i gael mynediad i adnoddau dysgu ar-lein ac i dalu costau’n ymwneud â chyfnodau o hunanynysu.

Mae’r arian hwn ar ben y £40m mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu eisoes i helpu prifysgolion trwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys £10m tuag at galedi, cymorth iechyd meddwl ac undebau myfyrwyr.

Daw’r arian o Gronfa Covid-19 Wrth Gefn Llywodraeth Cymru, a bydd HEFCW yn gyfrifol am ddyrannu’r arian.

‘Prifysgolion yn gweithio’n aruthrol o galed’

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Eleni, am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth, mae yna filoedd o fyfyrwyr sydd heb allu dychwelyd i’w campws eto,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Mewn rhai achosion, mae’n bosibl bod rhai yn dal i dalu am eu llety er nad ydynt yn ei ddefnyddio.

“Rydyn ni’n cydnabod mor anodd yw hyn, a dyna pam rydyn ni’n cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn.

“Mae ein prifysgolion wedi gweithio’n aruthrol o galed i gefnogi eu myfyrwyr, gan sicrhau bod y broses ddysgu wedi parhau, a chan sefydlu mesurau i ddiogelu eu myfyrwyr, eu staff a’u cymunedau lleol ar yr un pryd.

“Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddynt adeiladu ar y gwaith da hwnnw.”

Cefnogi ‘pobol a fydd yn gyfrwng i adeiladu ein heconomi yn dilyn y pandemig’

“Mewn cyfnod mor anodd, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi pobol sydd mewn addysg ar hyn o bryd, pobol a fydd yn gyfrwng i adeiladu ein heconomi yn dilyn y pandemig,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Threfnydd Cymru.

“Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, drwy sicrhau bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n agored i niwed a’r rheiny y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.

“Os ydych yn fyfyriwr yma yng Nghymru, bydd eich prifysgol neu eich undeb myfyrwyr yn gallu darparu mwy o wybodaeth i chi am y cymorth sydd ar gael.”

“Angen eglurder”

Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg ol-16 oed, Bethan Sayed AS, wedi dweud ei bod yn croesawu’r cyhoeddiad ond bod angen “eglurder gan Lywodraeth Cymru” ynglŷn â phwy sy’n gymwys i dderbyn yr arian, “a sicrhau bod y rheiny sydd yn rhentu llety preifat hefyd yn cael cymorth.”

Angen ‘mynd ymhellach’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyllid ychwanegol, ond wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd gam ymhellach.

“Mae myfyrwyr prifysgol wedi bod yn talu am eu cyrsiau ond heb dderbyn yr addysg lawn yr oeddent yn ei disgwyl,” meddai llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies AS.

“Ni all dysgu ar-lein ddisodli addysgu wyneb yn wyneb, gyda myfyrwyr yn methu â defnyddio’r adnoddau llawn y mae prifysgol yn eu cynnig. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall prifysgolion gynnig ad-daliad rhannol ar gyfer y flwyddyn academaidd, yn ogystal â sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i fforddio eu cyrsiau ym mis Medi.”

Kirsty Williams yn cyhoeddi’r ‘pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn Ewrop’

“Dydw i ddim eisiau gweld unrhyw un yn rhoi’r gorau i addysg eleni oherwydd problemau ariannol.”

“Pan mae pobol yn talu lot o bres am rhywbeth, mae angen bod fymryn yn fwy teg hefo nhw”

Ymateb myfyrwyr i’r £40m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w cefnogi