Fe fydd Boris Johnson yn dod dan bwysau i ymestyn y taliad ychwanegol o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol.

Mae’r Blaid Lafur wedi gorfodi pleidlais yn y Senedd heddiw (Dydd Llun, Ionawr 18) ynglŷn â’r bwriad i gael gwared a’r tal ychwanegol.

Roedd yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, wedi rhybuddio’r Prif Weinidog y byddai miliynau o deuluoedd ar eu colled o £1,000 y flwyddyn os yw’r Llywodraeth yn sgrapio’r cynnydd.

Fe fydd Boris Johnson yn wynebu galwadau gan Aelodau Seneddol ei blaid ac elusennau i ymestyn y taliad ychwanegol nes bod y cyfyngiadau coronafeirws yn dod i ben. Maen nhw’n dadlau bod yr £20 yr wythnos ychwanegol wedi bod yn “achubiaeth” i bobl yn ystod y pandemig.

Roedd y Llywodraeth wedi cynyddu’r budd-dal dros dro er mwyn helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng Covid ond mae disgwyl i’r taliad ychwanegol ddod i ben ym mis Ebrill, gan effeithio incwm hyd at chwe miliwn o deuluoedd.

Mae Liz Saville-Roberts AS a Hywel Williams AS o Blaid Cymru wedi dweud y byddant yn pleidleisio i gadw’r cynnydd o £20, ac wedi galw am “ddatganoli pwer dros bolisi lles i Gymru” er mwyn “gwrthdroi degawd o lymder yn ein system lles.”

“Bydd penderfyniad San Steffan i gael gwared ar y codiad o £20 i Gredyd Cynhwysol yn drychinebus. Bydd dros draean o aelwydydd Cymru fwy na £1,000 y flwyddyn yn waeth eu byd. Bydd £250m yn llai o wariant lles yn dod i Gymru,” meddai Hywel Williams.