Wrth gyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu myfyrwyr prifysgol sy’n wynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19 mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud na ddylai unrhywun orfod rhoi’r gorau i addysg eleni oherwydd problemau ariannol achoswyd gan y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £40m o gyllid ychwanegol i alluogi prifysgolion i helpu myfyrwyr.

Mae’r arian hwn yn ychwanegol i’r £40m mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu eisoes i helpu prifysgolion trwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys £10m tuag at galedi, cymorth iechyd meddwl ac undebau myfyrwyr.

‘Pecyn cymorth mwyaf hael yn Ewrop’

“Mae addysg yn creu cyfleoedd, yn newid bywydau, yn gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn hanfodol i ffyniant economaidd hirdymor,” meddai Kirsty Williams.

“I bob myfyriwr o Gymru, p’un a ydych yn astudio yma neu rywle arall yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithio i greu’r pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn Ewrop.

“Dydw i ddim eisiau gweld unrhyw un yn rhoi’r gorau i addysg eleni oherwydd problemau ariannol.”

Wrth i fyfyrwyr barhau i ddilyn eu cyrsiau o bell, bydd yr arian hefyd o gymorth wrth fynd i’r afael â ‘thlodi digidol’ a’u helpu i gael mynediad i adnoddau dysgu ar-lein ac i dalu costau’n ymwneud â chyfnodau o hunanynysu.

“Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i leihau’r bwlch cyrhaeddiad – mae’n hanfodol bellach nad ydym yn gadael i’r pandemig amharu ar y gwelliannau hynny.

“Rwy’n credu’n gryf mai ymgysylltu â’ch athrawon a’ch cyfoedion wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau bosibl o ddysgu, lle mae’n bosibl gwneud hynny.

“Yn anffodus er gwaethaf gwaith aruthrol ein prifysgolion, staff, myfyrwyr, a gwirfoddolwyr, gyda phrofion a chynlluniau ychwanegol ar waith i wneud dysgu mor ddiogel â phosibl, mae’r amrywiolyn newydd wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol i fwyafrif o fyfyrwyr astudio adref am y tro.

“Mae hyn yn golygu bod degau o filoedd o fyfyrwyr yn helpu i gadw Cymru yn ddiogel trwy aros i ffwrdd o’r campws.”

Fodd bynnag doedd dim modd i’r Gweinidog Addysg gadarnhau os bydd modd i fyfyrwyr ddychwelyd i’r campws o fewn y chwe mis nesaf.

Trafod gydag Undebau Myfyrwyr

Eglurodd y Gweinidog Addysg fod trafodaethau gydag Undebau Myfyrwyr yn ganolog i’r cyllid diweddaraf.

“Drwy gydol y pandemig, rwyf wedi trafod y materion hyn yn rheolaidd gyda myfyrwyr a’u hundebau,” meddai.

“Yn ogystal â’r heriau y mae’r sefyllfa bresennol wedi’u cyflwyno o ran dysgu, ei bod hefyd wedi achosi pwysau ariannol newydd ar fyfyrwyr.

“Mae llawer o’n myfyrwyr wedi gorfod talu am eu llety yn ystod y tymor, ac am resymau iechyd cyhoeddus pwysig iawn, nid oes modd iddynt fyw yno.

“Mae cyfran fawr o fyfyrwyr hefyd methu cael mynediad i’w swyddi rhan-amser arferol.

“Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod pa mor heriol yw hyn.”

TGAU a Lefel A

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg fod trafodaeth yn ymwneud ag asesiadau TGAU a Lefel A yn parhau.

“Mae’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflenwi yn gweithio ar gyflymder gan gyfarfod ddwywaith yr wythnos i edrych ar sut y gallwn addasu ein dulliau, i fod yn ymatebol i’r aflonyddwch parhaus,” meddai.

Mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig mae asesiadau wedi’u canslo a bydd graddau yn seiliedig ar asesiadau athrawon yn cael eu defnyddio.

Bydd diweddariad am y sefyllfa yng Nghymru dydd Mercher, Ionawr 20.

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi £40m i brifysgolion gael cefnogi myfyrwyr

Bydd yr arian yn helpu myfyrwyr i dalu costau gan gynnwys llety

“Pan mae pobol yn talu lot o bres am rhywbeth, mae angen bod fymryn yn fwy teg hefo nhw”

Ymateb myfyrwyr i’r £40m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w cefnogi