Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud ei bod yn cydweithio gyda llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i weld a yw’n bosibl ailymuno â chynllun Erasmus.

Cyhoeddodd Boris Johnson y penderfyniad i beidio cymryd rhan bellach wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Un o rheini oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r cynllun yn y 1970au a’r 1980au oedd y Cymro, Dr Hywel Ceri Jones.

Bu Prydain yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987 gan roi’r hawl i fyfyrwyr astudio mewn prifysgolion ledled Ewrop.

“Mae’n hynod, hynod o siomedig bod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â bod yn rhan o Erasmus+,” meddai Kirsty Williams yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, Ionawr 18.

Disodli gan gynllun ‘gwael iawn’

Mae disgwyl i gynllun tebyg ar raddfa fyd-eang, yn dwyn enw Alan Turing, ddisodli’r cynllun cyfnewid tramor.

“Rwy’n gwybod bod y Cynllun Turing sy’n disodli Erasmus+ yn un gwael iawn,” meddai’r Gweinidog Addysg.

“Bydd myfyrwyr yng Nghymru, myfyrwyr addysg uwch, myfyrwyr ysgol, a’r bobl ifanc hynny a gafodd y cyfle i fanteisio ar Erasmus+ drwy sefydliadau ieuenctid, mewn sefyllfa waeth am beidio cael mynediad llawn i Erasmus+.

“Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i weld a allwn gadw’n haelodaeth o Erasmus+.

“Rydym yn edrych i wella Cynllun Turing, bore ’ma er enghrhaifft bûm yn cyfarfod a gweinidogion ar draws y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r bwlch yn y ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid nad yw’n cael sylw gan y cynllun Turing.

“Byddaf yn archwilio pob opsiwn posibl, er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc Cymru’n colli allan o ganlyniad i’r penderfyniad hwn – nad oedd yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud.”

Pen ac Ysgwydd Huw Irranca-Davies

‘Mae’n warthus bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lladd Erasmus’

Huw Irranca-Davies

“Gwae nhw os nad yw’r cynllun newydd yn un da” medd Huw Irranca-Davies