Mae Cyngor Gwynedd wedi agor cynllun grant i gefnogi grwpiau lleol sy’n dosbarthu bwyd yn eu cymunedau.
Daw hynny yn sgil cynnydd mewn mentrau cymunedol o’r fath sydd yn darparu prydau bwyd i bobl sy’n fregus ac mewn angen ers cychwyn y pandemig.
Drwy gydweithio gyda siopau ac archfarchnadoedd lleol, maent hefyd yn lleihau lefelau gwastraff bwyd – a hwnnw’n fwyd sy’n hollol fwytadwy.
Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r grant Economi Gylchol Llywodraeth Cymru sydd werth £24,360 i brynu offer fel oergell, rhewgell ac offer storio bwyd i gynorthwyo’r grwpiau gyda’u gwaith.
“Ffaith dorcalonnus”
“Mae’r argyfwng Covid-19 wedi golygu bod mwy o bobl yn wynebu problemau cymdeithasol, gan gynnwys tlodi bwyd,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ym maes gwastraff ac ailgylchu.
“Mae’n ffaith dorcalonnus fod yna deuluoedd yn ein cymunedau yma yng Ngwynedd sy’n ei chael yn anodd cael bwyd maethlon ar y bwrdd.
“Mae amcangyfrifon diweddaraf yn dangos fod o leiaf 250,000 tunnell o’r diwydiant bwyd a diod y gellir ei ddosbarthu i fwydo pobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn – mae hynny’n ddigon i ddarparu 650 miliwn o brydau bwyd i bobl sydd mewn angen.
“Ond, mae’r pandemig hefyd wedi amlygu awydd pobl i gefnogi ei gilydd. Mae yna nifer o enghreifftiau o grwpiau gwirfoddol lleol sy’n gwneud gwaith anhygoel i rannu bwyd yn eu cymunedau.”
Sicrhau’r offer angenrheidiol
“Ein bwriad fel Cyngor gyda’r cynllun yma ydi sicrhau fod gan y grwpiau yma yr offer angenrheidiol fel eu bod yn gallu storio bwyd maethlon er mwyn gallu rhannu a’i ddosbarthu gyda phobl yn lleol,” meddai.
“Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn arbed bwyd rhag mynd yn ofer – a chyda unrhyw fwydydd nad ydynt yn addas i’w bwyta, yn cael eu hailgylchu trwy safle’r Cyngor a’i ddefnyddio i greu ynni gwyrdd.
“Rydan ni eisiau clywed gan unrhyw grwpiau lleol yma yng Ngwynedd sydd yn rhannu bwyd yn eu cymunedau er mwyn eu cefnogi yn y gwaith o gasglu, cludo neu ailddosbarthu bwyd.
Mae’r Cyngor yn arbennig o awyddus i glywed gan brosiectau sydd yn gobeithio ehangu’r cynnig o fwyd ffres, er enghraifft trwy sefydlu oergelli cymunedol.”
Bydd Cyngor Gwynedd yn darparu casgliadau gwastraff bwyd masnachol am ddim i’r prosiectau llwyddiannus, a bydd cefnogaeth ychwanegol gan dîm gwastraff i o leiaf chwe phrosiect llwyddiannus.
Mae mwy o fanylion ynglŷn â’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael a sut i wneud cais ar gael fan hyn.