Mae Brittany Ferries wedi cyhoeddi y bydd croesfan wythnosol rhwng Cherbourg a Rosslare yn dechrau ddydd Llun (Ionawr 18) yn sgil Brexit, ddeufis yn gynharach na’r disgwyl.
Bydd ‘Cap Finistère’, y llong gyflymaf yn fflyd y cwmni, yn hwylio’r llwybr rhwng Cherbourg a Rosslare.
Heddiw, bydd y llong yn gadael Rosslare am 8yh ac yn cyrraedd Cherbourg am 1.30yh ddydd Mawrth (Ionawr 19) cyn gadael eto am 4.45yh a dychwelyd i Iwerddon am 7yb fore Mercher (Ionawr 20).
Yn ystod gweddill yr wythnos, bydd yn gwneud dwy groesfan rhwng Rosslare a Bilbao yn Sbaen.
“Brwydro yn erbyn Brexit”
Mewn datganiad, dywedodd Brittany Ferries ei fod yn symud i “gefnogi’r sector cludo nwyddau ac i gyflawni anghenion diwydiant sy’n brwydro yn erbyn Brexit”.
“Yn draddodiadol, mae cludwyr Gwyddelig a Ffrangeg wedi dibynnu ar y Deyrnas Unedig wrth gludo nwyddau i gyfandir Ewrop ac oddi yno,” meddai’r cwmni fferi.
“Fodd bynnag, ers dechrau’r flwyddyn, mae mwy o gwmnïau wedi chwilio am ddewis arall yn lle’r biwrocratiaeth ychwanegol, ffurflenni newydd, mwy o gostau ac oedi posibl sy’n deillio o gario nwyddau drwy’r Deyrnas Unedig,” meddai.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Rosslare Europort, Glenn Carr, fod y porthladd yn croesawu’r “ymateb cyflym i anghenion diwydiant Iwerddon wrth ddechrau gwasanaethau Rosslare i Cherbourg eleni, ddau fis yn gynharach na’r disgwyl”.
Stena Line yn cyhoeddi gwasanaeth newydd rhwng Dulyn a Cherbourg
Mae Stena Line hefyd wedi cyhoeddi dechrau gwasanaeth rhwng Dulyn a Cherbourg, yn Ogledd-orllewin Ffrainc.
Roedd Stena Line eisoes wedi canslo deuddeg taith rhwng Cymru ag Iwerddon, gan gynnwys pedair taith rhwng Caergybi a Dulyn ac wyth rhwng Abergwaun a Rosslare.
Cam dros dro yw hwn, yn ôl y cwmni, ond bydd ailddechrau’r teithiau yn dibynnu ar y galw.
Wedi i gyfnod pontio Brexit ddod i ben mae’r cwmni fferi wedi gweld gostyngiad o 70% mewn cludo nwyddau ar lwybrau rhwng Cymru ac Iwerddon.
Daw hyn fel clec arall i borthladdoedd Abergwaun a Chaergybi yng Nghymru.
“Pryderus iawn”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Rhun ap Iorwerth AoS, sy’n cynrychioli Ynys Môn, wrth golwg360: “Mae’n bryderus iawn gweld cwymp mor sylweddol yn y fasnach drwy Gaergybi. Tan rŵan Caergybi fu’r croesiad hawsaf, y cyflymaf, a’r rhataf.
“Mewn egwyddor, dylai fod y cyflymaf o hyd, ond mae’n haws ac yn llai o risg i allu osgoi unrhyw fiwrocratiaeth tollau drwy fasnachu’n uniongyrchol rhwng cyfandir Ewrop a Gweriniaeth Iwerddon, a gyda chynnydd mor ddramatig yn y fasnach uniongyrchol, mae’r pris yn debyg o ostwng hefyd.
“Ac ar ben hynny mae’n bosibl i fasnach rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon osgoi biwrocratiaeth drwy hwylio yn uniongyrchol o Loegr neu’r Alban – does dim llongau o Gaergybi i Belffast.
“Yn anffodus, dyma wnaethon ni rybuddio, a’r gobaith yw mai ffenomenon dros dro yw hwn nes y bydd pethau’n setlo.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:
“Rydym yn deall y pwysau sylweddol, y newid a’r fiwrocratiaeth ychwanegol y mae masnachwyr a chludwyr yn eu hwynebu ac rydym yn pryderu bod hyn yn ffactor pwysig yn y galw cynyddol am hwyliau uniongyrchol i’r Undeb Ewropeaidd o Iwerddon.
“Fodd bynnag, mae costau ychwanegol sylweddol yn gysylltiedig â dewis y llwybr hwn dros ‘bont dir’ y Deyrnas Unedig, a rhaid inni sicrhau bod porthladdoedd Cymru a phont tir y Deyrnas Unedig yn cael eu cydnabod fel yr opsiwn logistaidd a ffefrir ar gyfer masnach Iwerddon gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae porthladdoedd a gweithredwyr fferi Cymru yng Nghaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun yn gweithio’n eithriadol o galed i gefnogi eu cwsmeriaid a sicrhau bod masnach Iwerddon a Phrydain Fawr yn gallu symud yn effeithiol ac yn ddidrafferth, ac i roi hyder mai ein rhan ni o bont dir y DU yw’r dull gorau o symud nwyddau rhwng Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd o hyd.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda hwy, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Iwerddon i asesu’r sefyllfa’n barhaus, datblygu atebion a hyrwyddo negeseuon ynghylch parodrwydd busnesau. O ganlyniad, roedd y gyfradd ‘droi i ffwrdd’ o borthladdoedd [nifer y loriau sy’n cael eu gwrthod yn y porthladdoedd] yn is na’r disgwyl, tua 20% i ddechrau, ac maent wedi dechrau gostwng ymhellach, i tua 10%.”