Mae wedi dod i’r amlwg fod tri ymgeisydd Ceidwadol sy’n sefyll yn etholiad y Senedd eleni yn cefnogi diddymu’r Senedd.

Yn eu plith mae Calum Davies, mab Suzy Davies, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.

Mae dogfennau a ddatgelwyd gan BBC Cymru yn dangos fod yr ymgeiswyr Calum Davies, Joel James a Chris Thorne am weld Senedd yn cael ei ddiddymu.

“Y gwir syml yw bod datganoli’n methu ac mae’n rhaid ei ddiddymu,” meddai Calum Davies, sydd hefyd yn ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Canol Caerdydd yn ei gais.

“Felly, os ydych chi eisiau atebolrwydd, tarfu ar gonsensws Bae Caerdydd, a rhywun sydd nid yn unig yn cydnabod perygl datganoli ond a fydd yn brwydro i’w ddiddymu, yna fi yw eich Ceidwadwr a’ch Unoliaethwr.”

Mae’r Torïaid wedi ennill dwy o’r pedair sedd yn rhanbarth Canol De Cymru ym mhob etholiad yn y Senedd ers datganoli yn 1999.

Yn ystod y broses benderfynu pwy fyddai’n cael eu dewis ar gyfer rhestr ranbarthol Canol De Cymru ym mis Rhagfyr, gofynnwyd i bob ymgeisydd, sy’n seiliedig ar y system aelodau ychwanegol, am y Senedd.

Dywedodd Chris Thorne y byddai’n pleidleisio i ddiddymu’r Senedd tra dywedodd Joel James yn ei gais fod hi’n bryd “taro ‘Wal Goch’ wreiddiol Llafur â morthwyl, gan ddod â’u harbrawf datganoli i ben yng Nghymru”.

Dewiswyd cyn-arweinydd y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ar frig rhestr y blaid ar gyfer yr ardal, Joel James yn ail, Calum Davies yn drydydd a Chris Thorne yn bedwerydd.

Suzy Davies heb ei dewis

Daw hyn gyda’r newyddion na fydd Suzy Davies ymhlith y pedwar uchaf ar restr rhanbarthol y Ceidwadwyr ar gyfer Gorllewin De Cymru yn etholiadau’r Senedd fis Mai.

Golyga hyn y bydd rhaid iddi ennill etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr i ddychwelyd i’r Senedd.

Mae Suzy Davies wedi bod yn Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Orllewin De Cymru ers 2011.