Mae Llŷr Gruffydd AoS wedi beirniadu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, ar ôl iddi ddyfynnu ffigwr “camarweiniol” am effaith ffermio ar yr amgylchedd.

Gyda phobol ar draws y byd wedi stopio bwyta cynnyrch anifeiliaid ar gyfer ‘Veganuary’ eleni, roedd y Comisiynydd wedi trydar ei chefnogaeth yn ogystal â “rhywfaint o gymhelliant gyda i’ch helpu i gadw at eich nod”.

“Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth nesaf Cymru sefydlu System Llesiant Cenedlaethol i wella iechyd y genedl a lleihau’r galw ar wasanaethau. Gallai lleihau ein cymeriant o gig wneud gwahaniaeth mawr gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn hawlio mai cig, ynghyd ag ysmygu yw un o brif achosion canser,” meddai.

Ac aeth ymlaen i ddweud: “Mae cadw da byw ar gyfer cig, wyau a llaeth yn cynhyrchu 14.5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang, yr ail ffynhonnell uchaf o allyriadau a mwy na’r holl gludiant gyda’i gilydd.”

Ffigwr y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) yw hwnnw, ond yn ôl Llŷr Gruffydd AoS roedd yn “gamarweiniol” yng nghyd-destun Cymru.

“Pam dyfynnu ffigwr byd-eang camarweiniol pan mae adroddiad Hybu Cig Cymru a Phrifysgol Bangor yn dangos bod gan Gymru un o’r systemau cynhyrchu cig mwyaf cynaliadwy yn y byd? (Dim ond traean o’r allyriadau CO2 cyfartalog byd-eang fesul kg). Gwell dweud wrth bobol fwyta cynnyrch o Gymru!” meddai.

Dywedodd yr astudiaeth honno fod “ôl troed carbon llawer o’r ffermydd Cymreig ymhlith yr isaf a gofnodwyd ar gyfer gwledydd eraill sy’n cynhyrchu cig oen a chig eidion.”

Diolchodd y Comisiynydd i Llŷr Gruffydd, gan ddweud bod bwyta cynnyrch lleol yn “ffordd wych o leihau eich ôl troed carbon”.

Ond awgrymodd yr Aelod Plaid Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru y dylai “annog cigyddwyr cydwybodol i brynu cynnyrch Cymreig”.

Gwartheg Henffordd organig

Gallai cig oen a chig eidion Cymru “fod ymhlith y systemau ffermio mwyaf cynaliadwy”

Astudiaeth gan Brifysgol yn dweud fod ffermydd defaid a chig eidion Cymru ymhlith yr allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf o’i gymharu â systemau tebyg yn fy

 

Dyddiadur figan tila

Non Tudur

Mae Non Tudur yn rhoi tro ar Veganuary