Mae myfyrwyr Prifysgolion yng Nghymru wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £40m o gyllid ychwanegol i gefnogi’r rhai sy’n wynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19.
Bydd yr arian hwn yn helpu i sicrhau mynediad tuag at adnoddau dysgu ar-lein ac i dalu costau’n ymwneud â chyfnodau o hunanynysu.
I nifer o fyfyrwyr, mae’r cyhoeddiad yn darparu’r gydnabyddiaeth angenrheidiol o’r heriau sy’n eu hwynebu.
Ond er bod y pecyn cymorth yn daprau rhywfaint o dawelwch meddwl, mae’r pryderon yn parhau yn eu plith ynglŷn ag effeithlonrwydd dysgu digidol.
“Myfyrwyr yn tueddu i gael eu hanghofio”
“Dros y flwyddyn, mae ’na lot o sylw wedi cael ei rhoi i ysgolion, ac yn amlwg mae hynny’n bwysig,” meddai Aled Pritchard sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.
“Ond mae myfyrwyr yn tueddu i gael eu hanghofio a dwi’n meddwl fod ’na wleidyddiaeth a busnes yn ymwneud ag hynny… dydi hi ddim wastad yn glir pwy sy’n gwneud pa benderfyniadau,” meddai.
“Fyswn i’n gwerthfawrogi tasa ’na bach fwy o gyfathrebu’n mynd ymlaen rhwng sefydliadau a myfyrwyr ynglŷn â pam bod rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud a pam bod eraill ddim.
“Ond mae gweld bod ’na gydnabyddiaeth rŵan… bod pethau ddim fel gafodd nhw eu gwerthu i ni ym mis Medi yn galonogol.”
“Mae angen bod fymryn yn fwy teg”
Erbyn hyn, mae sawl Prifysgol yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod am gynnig ad-daliad i fyfyrwyr am lety nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio oherwydd y cyngor i aros adref.
Mae Prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd yn bwriadu cynnig ad-daliad llawn am bob wythnos nad yw myfyrwyr yn defnyddio eu llety, tra bod Prifysgol Bangor yn bwriadu cynnig ad-daliad o 10%.
“Mae’n deg eu bod nhw’n cynnig hynny,” meddai Aled Pritchard, “o ystyried bod pobl yn talu am rywbeth… a ddim yn cael ei ddefnyddio fo.
“Pan mae pobol yn talu lot o bres am rywbeth, mae angen bod fymryn yn fwy teg hefo nhw.
“Dwi ’di laru sbïo ar yr un un wal”
“Mae hi’n anodd erbyn hyn, o ran rydych chi’n teimlo eich bod chi’n colli nabod rhywfaint ar eich cwrs ac ar eich darlithwyr. a dwi’n gwybod nad fi ydi’r unig un sy’n teimlo hynny,” meddai Aled Pritchard.
“O anwybyddu’r ochr gymdeithasol hyd yn oed,” meddai, “o ran yr ochr academaidd, dim dyma oni’n disgwyl… oni’n meddwl fyswn i’n cael treulio amser hefo arbenigwyr yn y maes dani di ddewis… ond dydyn ni ddim wedi cael hynny.
“Mae’r dysgu o ran mynd drwy syllabus fel petai, ddim wedi newid. Yn fy marn i, mae hi digon hawdd mynd drwy’r gwaith mewn darlithoedd ar-lein ond dwi’n teimlo bod y cyswllt wyneb-yn-wyneb yn bwysig wrth ddysgu ac yn amlwg dydi hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd.
“Dachi’n mynd o un ddarlith i llall…a dwi ’di laru sbïo ar yr un wal!”
“Wedi cael ein twyllo”
“Dwi’n teimlo ein bod ni wedi cael ein twyllo dipyn bach,” meddai Beca Nia, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Jyst achos bod o mor ddrud a ma’ lot o’r myfyrwyr yn meddwl lle mae’r arian yma’n mynd?
“Ond oherwydd eu bod nhw wedi cyhoeddi hyn rŵan mae o’n dod a bach o dawelwch meddwl am ein bod ni’n cael ystyriaeth ac yn dipyn bach o flaenoriaeth… achos odden ni’n teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael ac wedi ein hanghofio.
Wrth i fyfyrwyr barhau i ddilyn eu cyrsiau o bell, bydd yr arian hefyd o gymorth wrth fynd i’r afael â thlodi digidol, rhywbeth sy’n cael ei groesawu gan Beca Nia:
“Mae hi’n bwysig cydnabod bod cymhwyso i’r her o addysgu ar-lein yn gostus,” meddai, “ac mae’r ffaith bod nhw’n rhoi fwy o arian i gefnogi myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol yn cael ei werthfawrogi.
“Dim bai’r Brifysgol ydi hynny… maen nhw’n darparu’r addysg cystal fedrith nhw.
“Mae o ychydig yn wahanol pan ti’n codi o dy wely, mynd i ista at dy ddesg, a mynd yn ôl i dy wely yn nos.
“Dydi o jyst ddim ru’n peth a chodi’n gynnar a mynd ar y campws a mynd mewn i’r meddylfryd cywir a’r parodrwydd yna i ddysgu.
“Ti’n byw a bod yn yr un lle.”
Kirsty Williams yn cyhoeddi’r ‘pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn Ewrop’
Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi £40m i brifysgolion gael cefnogi myfyrwyr