Mae Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru, yn dweud y bydd y mudiad yn ceisio barn ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai ar annibyniaeth fel bod cefnogwyr yn gwybod dros bwy y dylen nhw bleidleisio.
Ond mae’n mynnu, serch hynny, na fydd y mudiad yn cefnogi’r un blaid wleidyddol yn fwy na’r gweddill ac yn parhau i aros yn bleidiol niwtral.
Mae’r mudiad wedi gwrthsefyll sawl awgrym yn y gorffennol y dylai ystyried sefydlu ei hun yn blaid un polisi er mwyn ymgyrchu dros annibyniaeth, gan ffafrio lobïo’r pleidiau gwleidyddol ar y mater.
Ar ben arall y sbectrwm, byddan nhw hefyd yn brwydro yn erbyn y rhai sydd am ddiddymu’r Senedd a datganoli’n llwyr.
“Byddwn ni’n cysylltu â’r holl ymgeiswyr yn gofyn iddyn nhw am eu barn am annibyniaeth ac yn gwneud hynny ar gael i bobol,” meddai Siôn Jobbins wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.
“Ar ddiwedd yr etholiad hwnnw ym mis Mai, rhaid bod gyda ni lywodraeth yng Nghymru sydd â llwybr at annibyniaeth.
“Os nad oes newid, does dim annibyniaeth.
“Dyma’r neges i gefnogwyr Yes Cymru hefyd – mae’n rhaid bod newid mewn polisi yn y Senedd yng Nghaerdydd neu fel arall, does dim allwedd i ddatgloi annibyniaeth.”
Mae’n dweud bod sefyllfa’r Alban a Gogledd Iwerddon yn sgil Brexit, gyda’r naill yn ceisio annibyniaeth a’r llall yn wynebu galwadau i uno Iwerddon, yn golygu y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl a chael ei llyncu gan Loegr.
“Fy mhryder i, fy mhryder dirfodol hyd yn oed, yw y bydd pethau’n symud yn gyflym iawn yn yr Alban ar ôl Mai, ac yn gyflym iawn yng Ngogledd Iwerddon achos bydd etholiad yno’n fuan hefyd,” meddai.
“Ac wedyn, os yw Cymru’n dal i ffaffio, yn gobeithio y bydd newid yn San Steffan…”
Pleidiau o blaid annibyniaeth
Mae nifer aelodau Yes Cymru wedi cynyddu o 2,000 ar ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf i 17,000 erbyn hyn ac mae Siôn Jobbins yn pwysleisio eu bod nhw’n cefnogi trawstoriad o bleidiau gwleidyddol, sy’n golygu bod angen plaid bwrpasol yn y Senedd tros annibyniaeth.
Ond a yw hynny’n golygu bod Yes Cymru wedi gwneud popeth o fewn eu gallu erbyn hyn o blaid yr ymgyrch?
“Ydy, i raddau,” meddai.
“Mae’n fater i bleidiau gwleidyddol ddechrau trafod hyn.
“Mae’n mynd i lanio arnom ni ac mae’n rhaid i’r holl bleidiau gwleidyddol – ac mae Plaid Cymru wedi – dechrau edrych arno ac mae hyd yn oed rhai o’r Ceidwadwyr a’r Blaid Werdd yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth.
“Mae angen iddyn nhw ddechrau edrych ar bolisïau ar gyfer hynny.
“Mae Yes Cymru yn cefnogi hyn ac rydyn ni’n trefnu cynadleddau eleni lle byddwn ni’n edrych ar arian cyfredol a’r economi yn fwy manwl a phethau eraill felly byddwn ni’n cyflwyno dadleuon iddyn nhw.
“Dydy’r status quo ddim yn mynd i fod yn gynaliadwy.
“Os yw pobol yn meddwl y bydd yr un fath ymhen dwy neu dair blynedd, fydd e ddim.
“Mae datganoli wedi dod i cul-de-sac a dw i’n credu ei fod yn ddewis rhwng annibyniaeth neu ymgorfforaeth, dyna lle bydd Cymru ymhen rhai blynyddoedd.
“Yn sicr, mae angen plaid [yn y Senedd] sy’n cefnogi annibyniaeth ac sy’n gorfodi partner arall i gael llwybr clir i annibyniaeth neu fydd e ddim yn digwydd ac mae angen i’n cefnogwyr ddeall hynny.”
Sut olwg fyddai ar Gymru annibynnol Yes Cymru?
Yn ôl Siôn Jobbins, byddai Yes Cymru’n dymuno gweld dau beth yn y Gymru annibynnol, sef cydnabyddiaeth ryngwladol fel aelod o’r Cenhedloedd Unedig a chyfansoddiad ysgrifenedig i Gymru.
“Rydyn ni’n gweithio ar hynny nawr, fel mae’n digwydd, a byddwn ni’n ei rannu gyda phobol yn y dyfodol,” meddai.
“A yw’n golygu y bydd gyda ni’r frenhiniaeth sy’n gwestiwn arall.
“A yw’n golygu ein bod ni o fewn NATO sy’n gwestiwn arall.
“A yw’n golygu bod gennym ein harian ein hunain? Hynny, eto, sy’n gwestiwn arall.”
Heriau
Yn ôl Siôn Jobbins, dydy’r ddadl economaidd yn erbyn annibyniaeth, sef y byddai’r economi’n rhy wan, ddim yn dal dŵr bellach.
“Mae’n her ond yn y 1960au, roedd economi Cymru ddwywaith yn fwy nag economi Gweriniaeth Iwerddon,” meddai.
“Heddiw, mae economi Gweriniaeth Iwerddon bedair gwaith yn fwy nag economi Cymru ac mae hynny am waethygu os ydyn ni’n aros fel ydyn ni.
“Mae’n her os ydyn ni’n aros, dydy’r status quo ddim yn opsiwn.
“O ran annibyniaeth, mae’r holl gyfarpar gyda ni ac mae gyda ni lawer o bethau da, pethau nad oes modd eu trosgwlyddo, fel ynni a ffatrïoedd, cynnyrch da yn y sector amaeth yma.
“Dyma’r pethau na all llefydd eraill eu gwneud, neu y gallwn ni eu gwneud nhw a’u cadw nhw yma.
“Wedyn gallwn ni edrych ar sut i wneud arian o’r hyn rydyn ni’n ei gynhyrchu.
“Ydy, mae’n her, ond nid yn her mor fawr ag y mae rhai pobol yn tybio.”