Mae un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar y cyhoedd i “fabwysiadu’r un meddylfryd” ag y gwnaethon nhw yn ystod y cyfnod clo cyntaf wrth ddilyn y cyfyngiadau.

Dywed Dr Eleri Davies y bydd brechu holl oedolion Cymru’n “dasg sylweddol” ac y gallai gymryd cryn amser i’w chyflawni.

At hynny, mae’n dweud na fydd effeithiau’r brechlyn i’w gweld yn genedlaethol am beth amser, a bod “rhaid i ni barhau i ddilyn y cyngor ynghylch cadw Cymru’n ddiogel”.

Brechu

Daw ei rhybudd wrth i Lywodraeth Cymru gael eu beirniadu am frechu cyfradd is o bobol na gwledydd eraill Prydain.

Dim ond 3,215 o bob 100,000 o’r boblogaeth oedd wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn erbyn diwedd yr wythnos.

3,514 yw’r ffigwr yn yr Alban, tra ei fod yn 4,005 yn Lloegr a 4,828 yng Ngogledd Iwerddon.

Erbyn bore ddoe, roedd 126,375 o bobol wedi derbyn dos cyntaf yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Cymru wedi derbyn oddeutu 250,000 dos o frechlyn Pfizer/BioNTech a 50,000 dos o frechlyn AstraZeneca Rhydychen hyd yn hyn.

Ffigurau Cymru’n “eithriadol o uchel”

“Mae nifer yr achosion coronafeirws positif yn parhau’n eithriadol o uchel yng Nghymru ac mae’n destun pryder difrifol oherwydd yr effaith ar wasanaethau Gwasanaeth Iechyd Cymru,” meddai Dr Eleri Davies.

“Mae Cymru gyfan yn dal dan glo.

“Rydym yn gofyn bod y cyhoedd yn mabwysiadu’r un meddylfryd ar gyfer y cyfnod clo hwn ag y gwnaethon nhw ym mis Mawrth 2020.

“Rydym yn deall bod pobol wedi blino ond oherwydd bod yr amrywiolyn newydd mwy heintus o’r coronafeirws ar led yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cadw at y cyfyngiadau clo a ddim yn cyfarfod â phobol eraill.

“Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi aros gartref.

“Os yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, plis gwnewch hyn ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu eich swigen gefnogaeth yn unig.

“Gwnewch eich siopa ar-lein ond os oes angen i chi ymweld â siopau hanfodol, gwnewch hynny ar eich pen eich hun, os yn bosib, i leihau nifer y bobol mewn gofod manwerthu, a pheidiwch â stopio i siarad â phobol o’r tu allan i’ch aelwyd.

“Os oes rhaid i chi adael eich cartref, cadwch bellter, golchwch eich dwylo’n gyson a gwisgwch fwgwd pan fo gofyn i chi wneud hynny yn ôl y rheoliadau.”

Bydd cyfyngiadau teithio newydd yn dod i rym yfory (dydd Llun, Ionawr 17), meddai, gan atgoffa ac annog pobol i gadw atyn nhw.