Fe fydd Cernyw yn croesawu Joe Biden ac arweinwyr eraill gwledydd y G7 ar gyfer uwchgynhadledd ym mis Mehefin.

Bydd y digwyddiad, fydd yn dechrau ar Fehefin 11, yn cael ei gynnal ar lan y môr mewn lle o’r enw Porth reb Tor (Saesneg: Carbis Bay).

Bydd arweinwyr Prydain, Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan a’r Undeb Ewropeaidd yn ymgynnull yno, ac mae Boris Johnson hefyd wedi gwahodd arweinwyr Awstralia, India a De Corea fel gwesteion wrth iddo geisio hybu adferiad gwyrdd i argyfwng y coronafeirws.

Dyma’r tro cyntaf i’r uwchgynhadledd ddod ynghyd wyneb yn wyneb ers bron i ddwy flynedd, ar ôl i’r digwyddiad yn yr Unol Daleithiau y llynedd gael ei gynnal ar-lein.

Dydy Prydain ddim wedi cynnal y digwyddiad ers 2013, pan aeth yr arweinwyr i sir Fermanagh yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd Porth reb Tor yn cael cefnogaeth Porth Iâ (St. Ives) a chymunedau eraill Cernyw i gynnal y digwyddiad.

Canu clodydd Cernyw

Yn ôl Boris Johnson, Cernyw yw’r “lleoliad perffaith ar gyfer y fath uwchgynhadledd hanfodol”.

“Ddau gan mlynedd yn ôl, roedd gweithfeydd tun a chopr Cernyw wrth galon chwyldro diwydiannol y Deyrnas Unedig a’r haf hwn, fe fydd Cernyw unwaith eto’n gnewyllyn newid a datblygiadau byd-eang gwych,” meddai.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi bod yn paratoi ers rhai misoedd ar gyfer y digwyddiad.