Mae Delyth Jewell, llefarydd trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus Plaid Cymru, yn dweud bod rhaid i Lafur edrych ar eu perfformiad eu hunain yn Llywodraeth Cymru wrth alw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Geidwadol Prydain i’r pandemig coronafeirws.
Yn ôl adroddiadau, mae Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, yn galw am ymchwiliad annibynnol i ymateb llywodraeth Boris Johnson gan ddweud bod gweinidogion “wedi methu dysgu gwersi o gyfnod cynta’r pandemig”.
“Y canlyniad trasig yw fod Prydain wedi dioddef mwy o farwolaethau yn ystod yr ail don na’r gyntaf,” medd dyfyniad ganddo fe yn The Independent.
“Mae pob bywyd sydd wedi’i golli i’r feirws yma’n chwalu teulu.
“Fe wnaeth y prif weinidog addo ymchwiliad annibynnol, ac mae’r teuluoedd hynny’n haeddu cael gwybod pryd y bydd yn dechrau.”
Llywodraeth Lafur Cymru
Yng Nghymru, fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus ym mis Mai yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru.
Mae Delyth Jewell yn cyhuddo’r llywodraeth o ddiffyg manylder ynghylch pryd fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal a phryd y bydd yn dod i ben.
“Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Blaid Lafur yn Llundain yn gallu myfyrio ar yr hyn mae Llafur yn ei wneud yn y llywodraeth yng Nghymru,” meddai.
“Ym mis Mai, fe wnaeth y prif weinidog ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru.
“Ers hynny, prin fu’r manylion ynghylch pryd fydd y fath ymchwiliad yn dechrau ac yn gorffen ei waith.
“Pe bai’r ymchwiliad wedi cael ei gychwyn ar y pryd, gallai canlyniadau interim fod wedi cael eu cyflwyno y gwanwyn hwn, gan gyflymu’r broses o ddysgu gwersi.
“Mae teuluoedd sy’n galaru’n haeddu gwybod a fyddai’r canlyniadau wedi bod yn wahanol pe bai penderfyniadau polisi eraill wedi cael eu gwneud.”