Mae brechlyn Covid-19 yng Nghymru yn cael ei ddarparu “cyn gynted ag y gallwn”, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.
Mae hefyd yn rhagweld mai Cymru fydd y “wlad sy’n perfformio bumed orau yn y byd” o ran brechu.
Daw ei sylwadau wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gael ei feirniadu am ddweud y bydd yn ymestyn y broses frechu dros chwe wythnos – yn hytrach na defnyddio’r brechlynnau cyn gynted â phosib.
“Mae’r Prif Weinidog wedi egluro ei sylwadau ac wedi ei gwneud hi’n glir nad ydym yn dal unrhyw frechlyn yn ôl,” meddai Vaughan Gething wrth BBC 5 Live heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 19).
“Ein her fwyaf yw darparu seilwaith digonol i ddarparu’r brechlyn Pfizer heb ei wastraffu.
“O ran cyfraddau gwastraff yng Nghymru, mae’n sefyllfa dda iawn. Mae llai nag 1% o’r brechlyn yn cael ei wastraffu, mae hynny’n lefel uchel iawn o effeithlonrwydd.
“Felly rydyn ni’n gallu cyflwyno’r brechlyn mewn modd y gallwn ni ddarparu mwy a mwy ohono. Yr wythnos hon, byddwn yn darparu hyd yn oed mwy o’r brechlyn Pfizer na’r wythnos diwethaf.
“Wrth gwrs, mae gan bob gwlad yn y Deyrnas Unedig stociau o’r brechlyn Pfizer y maen nhw’n eu cadw mewn cyfleusterau rhewgell oherwydd i ni gyd dderbyn y cyflenwad diwethaf o Pfizer tua mis yn ôl, felly rydym i gyd yn gweithio drwy hynny cyn gynted ag y gallwn.”
‘Pumed wlad sy’n perfformio orau yn y byd’
“Yn rhyngwladol Cymru fydd y bumed wlad sy’n perfformio orau yn y byd,” meddai Vaughan Gething wedyn.
“Ond rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i gael ein cymharu gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
“Rydw eisiau bod yn glir, os byddwn yn cyflawni ein cerrig milltir, byddwn yn yr un lle â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig fwy na lai yr un pryd ac y bydd pob un o’n pedwar grŵp blaenoriaeth wedi eu brechu erbyn canol mis Chwefror.”
70% o bobl dros 80 wedi eu brechu erbyn diwedd yr wythnos
Ychwanegodd Vaughan Gething y bydd 70% o breswylwyr cartrefi gofal a phobol dros 80 wedi eu brechu erbyn diwedd yr wythnos.
Mae disgwyl y bydd pobol dros 70 yn cael eu gwahodd “yn y dyfodol agos”.
Dywedodd hefyd y bu “ymdrech sylweddol” i frechu staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn ddiweddar.
“Nawr fod gennym gyfuniad o Pfizer ac AstraZeneca rydyn ni’n gweithio drwy’r boblogaeth,” meddai.
“Rwy’n disgwyl yn ddiweddarach yr wythnos hon i gyhoeddi ffigurau sy’n rhoi mwy o fanylion am sut mae’n mynd, ond rydym yn gwybod bod pob parafeddyg rheng flaen yng Nghymru naill ai wedi cael eu brechu neu wedi cael cynnig un.”