Mae parti wyth o bobol mewn sied yn Sgeti yn Abertawe ymhlith cyfres o droseddau y bu’n rhaid i’r heddlu ymdrin â nhw am eu bod yn torri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn ôl Heddlu’r De, mae 90 o bobol yn eu hardal wedi cael dirwyon am dorri’r cyfyngiadau Lefel 4 dros y penwythnos.

Yn eu plith roedd y bobol oedd wedi ymgynnull mewn gardd yn Sgeti, a chriw arall o naw o bobol yn ardal Townhill y ddinas a ddaeth ynghyd ar gyfer parti i ddatgelu rhyw babi.

Yng Nghaerdydd, cafodd ffotograffydd ddirwy am yrru 30 milltir i dynnu lluniau ar gyfer cystadleuaeth, tra bod dyn arall yn y Barri wedi cael dirwy am fod allan yn hytrach na hunanynysu gyda’i wraig oedd wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Hefyd yn y Barri, cafodd criw o ryw 30 o lanciau rybudd am ddringo ar ben toeon busnesau lleol ac am redeg o amgylch y dref.

Yn y gogledd, cafodd dau yrrwr ddirwy yn Ynys Môn ar ôl gyrru dros 200 milltir o’r Alban i ymweld â ffrindiau.

Cawson nhw eu stopio yn ardal Y Fali ger Caergybi ac roedden nhw wedi bod yn gyrru heb yswiriant.