Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn wrth i Storm Christoph daro Cymru dros y dyddiau nesaf.

Mae rhybudd y gallai llifogydd darfu ar fusnesau ac effeithio cartrefi.

Mae disgwyl i’r rhybudd melyn am law trwm bara tan ganol dydd ar ddydd Iau (Ionawr 21), ac i hyd at 200mm o law gwympo, gyda’r glaw trymaf yn y gogledd-orllewin.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi naw o rybuddion am lifogydd yn ardal afonydd Glaslyn, Mawddach, Dyfi, Conwy, Tafwys ac Efyrnwy.

Mae sawl rhybudd hefyd mewn ardaloedd arfordirol yn Sir Benfro.

Gallai amodau gyrru fod yn anodd a gallai ffyrdd gael eu cau, yn ôl y Swyddfa Dywydd, sydd hefyd yn rhybuddio y gallai trafnidiaeth gyhoeddus gael ei heffeithio.

Ac mewn rhai achosion, meddai’r Swyddfa Dywydd, gallai bywydau fod mewn perygl a gallai cymunedau golli eu cyflenwadau trydan am gyfnodau.