Mae pôl piniwn Baromedr cyntaf y flwyddyn yn darogan cystadleuaeth agos rhwng y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn etholiadau’r Senedd fis Mai.
Mae disgwyl i dair sedd newid dwylo, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill Bro Morgannwg a Bro Clwyd gan Lafur, a Llafur yn colli Llanelli i Blaid Cymru.
Mae’r ymchwil gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dangos newidiadau ar gyfer pob plaid ers y pôl piniwn diwethaf a gafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Tachwedd y llynedd (mae’r gymhariaeth â Thachwedd 2020 wedi ei nodi mewn cromfachau).
Llafur: 34% (-4)
Ceidwadwyr: 26% (-1)
Plaid Cymru: 22% (+2)
Gwyrddion: 6% (+3)
Reform UK: 5% (dim newid i gymharu â Phlaid Brexit y tro diwethaf)
Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (+1)
Eraill: 4% (dim newid)
Er bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi gostwng ers y pôl piniwn diwethaf, mae’r Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd, sydd yn gyfrifol am yr ymchwil, yn dweud bod angen bod yn ofalus wrth ddadansoddi’r ffigurau.
“Dylem nodi bod y newid hwn yn gwrthdroi cynnydd o bedwar pwynt gan Lafur yn y bleidlais ddiwethaf,” meddai.
“Fodd bynnag, gan ei bod hi’n debyg fod sgôr Llafur i lawr, a’i bod hi’n debyg fod y gefnogaeth i Blaid Cymru yn cynyddu ychydig (er unwaith eto o swm a allai fod o ganlyniad i wall samplu), mae’n dangos cystadleuaeth tair ffordd lawer mwy nag awgrymodd arolwg barn mis Tachwedd.
“Bryd hynny, roedd y gefnogaeth i’r Blaid Lafur bron ddwywaith yn fwy na’r gefnogaeth i Blaid Cymru; bellach, dim ond ychydig dros ddeg pwynt canran sy’n gwahanu’r tair plaid uchaf.”
Eglura’r Athro Awan-Scully nad yw’n debygol y bydd yr un blaid arall mewn sefyllfa i gystadlu.
Ychwanega ei bod hi’n ansicr a fydd modd i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill unrhyw sedd yn y Senedd eleni gan nad yw unig aelod y blaid yn y Senedd, Kirsty Williams, am sefyll eto.
Rhestr ranbarthol
O ran pleidlais y rhestr ranbarthol, mae’r gefnogaeth fel a ganlyn (gyda newidiadau ers mis Tachwedd eto wedi’u nodi mewn cromfachau):
Llafur: 30% (-3)
Ceidwadwyr: 25% (+1)
Plaid Cymru: 23% (+3)
Abolish the Assembly: 7% (dim newid)
Gwyrddion: 5% (+1)
Reform Uk : 4% (-1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (dim newid)
Eraill: 1% (-2)
Mae’r ffigurau yn atgyfnerthu’r awgrym y bydd cystadleuaeth agos.
Dim ond wyth pwynt canran sy’n gwahanu’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o ran y bleidlais ranbarthol.
Mae’r cynnydd yn y gefnogaeth i’r blaid wrth-ddatganoli, Plaid Diddymu’r Cynulliad, a gafodd ei weld yn y pôl piniwn ym mis Tachwedd wedi parhau yn 2021.
Mae’r pôl piniwn diweddaraf yn rhoi’r canlyniadau canlynol ar gyfer seddi rhestr ranbarthol y Senedd:
Gogledd Cymru: 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwr, 1 Abolish the Assembly
Canolbarth a Gorllewin Cymru: 2 Llafur, 1 Ceidwadwr, 1 Abolish the Assembly
Gorllewin De Cymru: 2 Geidwadwr, 2 Plaid Cymru
Canol De Cymru: 2 Geidwadwr, 2 Plaid Cymru
Dwyrain De Cymru: 2 Geidwadwr, 2 Plaid Cymru
Mae hyn yn rhoi’r canlyniadau cyffredinol canlynol:
Llafur: 26 sedd (24 etholaeth, 2 ranbarthol)
Ceidwadwyr: 16 sedd (8 etholaeth, 8 rhanbarthol)
Plaid Cymru: 15 sedd (7 etholaeth, 8 rhanbarthol)
Diddymu’r Cynulliad: 2 sedd (2 ranbarthol)
Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (1 etholaeth)
Er bod y pôl piniwn newydd yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru roi pwysau cynyddol ar y Blaid Lafur, mae’n darogan mai’r blaid Lafur fydd yn parhau i fod y blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl yr etholiad.
San Steffan
Mae’r pôl piniwn hefyd yn dangos bod y gefnogaeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru ar gyfer etholiadau San Steffan yn lleihau a hynny i’r gwrthwyneb i’r hyn a gafodd ei weld yn y pôl piniwn diwethaf.
Mae’n rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn ennill Alyn a Glannau Dyfrdwy, ond yn colli Ynys Môn i Blaid Cymru.
Llafur: 36% (-7)
Ceidwadwyr: 33% (+1)
Plaid Cymru: 17% (+4)
Reform UK: 5% (dim newid)
Gwyrddion: 4% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (dim newid)
Eraill: 2% (dim newid)