Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd sydd o blaid datganoli wedi colli ei lle ar restr ranbarthol Gorllewin De Cymru ar gyfer y Senedd.

Mae Suzy Davies, a ymgeisiodd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn 2018, wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru ers 2011.

Cadarnhaodd y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Llun (Ionawr 18) mai Tom Gifford, arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Pren-y-bont ar Ogwr, fyddai eu dewis cyntaf nhw ar gyfer y rhanbarth yn etholiadau’r Senedd fis Mai.

Mae Altaf Hussain yn ail, Samantha Chohan yn drydydd a Liz Hill O’Shea yn bedwerydd ar y rhestr.

Mae Suzy Davies hefyd yn ymgeisydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y Ceidwadwyr oedd yn fuddugol yno yn etholiadau San Steffan yn 2019 ond y blaid Lafur sydd â’r sedd yn y Senedd ar hyn o bryd.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod tri ymgeisydd Ceidwadol sy’n sefyll yn rhanbarth Canol De Cymru yn etholiad y Senedd eleni yn cefnogi diddymu’r Senedd.

Yn eu plith mae Calum Davies, mab Suzy Davies.

Mae dogfennau a gafodd eu datgelu gan BBC Cymru yn dangos bod yr ymgeiswyr Calum Davies, Joel James a Chris Thorne am weld y Senedd yn cael ei ddiddymu.

“Y gwir syml yw bod datganoli’n methu ac mae’n rhaid ei ddiddymu,” meddai Calum Davies, sydd hefyd yn ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ganol Caerdydd.

“Felly, os ydych chi eisiau atebolrwydd, tarfu ar gonsensws Bae Caerdydd, a rhywun sydd nid yn unig yn cydnabod perygl datganoli ond a fydd yn brwydro i’w ddiddymu, yna fi yw eich Ceidwadwr a’ch Unoliaethwr.”

Mab Aelod o’r Senedd ymhlith ymgeiswyr Ceidwadol sydd o blaid diddymu datganoli

A Suzy Davies AoS heb ei dewis yn rhanbarth Gorllewin De Cymru