Mae Russell T Davies wedi dweud ei fod wedi “reslo” â ph’un a ddylai fod wedi gwneud ei gyfres newydd ‘It’s A Sin’, sy’n trafod Aids yn yr wythdegau, yn ddrama ddogfen ai peidio.
Dywedodd y cyn-awdur Doctor Who ei fod wedi penderfynu gwneud ei sioe yn ffuglen, gyda’r canwr Years&Years Olly Alexander ond, wrth wneud y penderfyniad hwnnw, ei bod yn “wirioneddol ddrwg” ganddo beidio gallu cynnwys y Dywysoges Diana yn dal llaw claf Aids yn 1987.
Mae’r ddrama Channel 4 yn dilyn pum person ifanc sy’n cyfarfod am y tro cyntaf yn Llundain yn 1981.
Mae’n archwilio eu rhamantau a’u cyfeillgarwch, gyda’r feirws HIV ar gynnydd, ac wrth i’r degawd barhau, sut mae’r grŵp o ffrindiau yn cael eu herio mewn ffyrdd torcalonnus.
“Maen nhw i gyd wedi cael eu hysbrydoli gan bobol – mae’r cyfreithwyr bob amser yn gwneud yn siŵr nad ydw i’n dweud bod unrhyw un wedi’i seilio ar rywun mewn gwirionedd,” meddai Russell T Davies.
“Ond dydyn nhw ddim – mae’n ddarn o ffuglen.
“Dw i’n cofio ar y dechrau, cymerodd amser hir imi ysgrifennu pennod un… oherwydd bu’n rhaid i mi wneud dewis mawr iawn o ran a ddylid gwneud hyn yn ffeithiol iawn.”
“Doedd hynny ddim i mi”
“Mae yna ddrama ddogfen ffeithiol dda iawn i’w gwneud allan o hyn: i fod gyda’r meddyg hwnnw sy’n dod o hyd i’r achos cyntaf un sy’n dod i mewn; i fod yn Downing Street wrth iddyn nhw ddechrau ei drafod… bod yn yr ysbytai hynny wrth iddynt ddechrau penderfynu agor wardiau Aids…” meddai wedyn.
“Mae pethau da iawn i’w gwneud yno… ac eto, doedd hynny ddim imi.
“Fe wnes i wreslo gyda hynny.
“Yr oedd yn wirioneddol ddrwg gennyf golli’r foment y byddai’r Dywysoges Diana yn cymryd llaw dyn ar ward Aids; fe newidiodd hynny fywyd llawer o bobol yn wirioneddol.
“Nid yw’n ddigwyddiad bach… ac yna rydych chi’n meddwl, ‘O gosh, mae’n rhaid i chi gael actor i chwarae’r Dywysoges Diana’… ac mae hynny yn cymryd drosodd.
“Galla’ i eich sicrhau chi, y cyfan y byddem yn ei wneud yw siarad am yr actor Tywysoges Diana, felly rwy’n falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw yn y pen draw.
“Felly, unwaith y byddwch wedi dechrau ei wahanu, yn eithaf difrifol, o fywyd go iawn, a dweud ’mae’r rhain yn bobl ffuglennol’ yna mae’n dod yn fyw ac, wrth i chi ei ysgrifennu, rydych chi’n sylweddoli beth oedd y bwriad, sef creu pobl rydych chi’n eu caru.”
Er iddi gael ei gosod 40 mlynedd yn ôl, dywedodd Davies fod y tebygrwydd â phandemig y coronafeirws presennol yn amlwg, gan ychwanegu ei bod yn “rhyfedd”.
“Y PPE (cyfarpar diogelwch personol), a’r ymbellhau, a’r arwahanrwydd, a’r paranoia, a’r sibrydion,” meddai.
“Onid yw’n rhyfedd? Dim ond ailadrodd ei hun y mae hanes; dyma ni eto.”
Dywedodd Davies ei fod yn obeithiol y bydd y gyfres yn addysgu pobl ifanc nad ydyn nhw’n gwybod am yr epidemig Aids yn y 1980au, a hefyd yn eu hannog i fod yn ddiogel.
“Dydw i ddim yn beio unrhyw berson ifanc sydd ddim yn gwybod amdano. Wnes i ddim treulio fy arddegau a’m hugeiniau yn edrych yn ôl ar afiechydon blaenorol oedd wedi chwyddo’r byd,” meddai.
“Serch hynny, os edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, mae eich bywyd yn mynd yn gyfoethocach… mae pethau i’w dysgu.”