Roedd Stephen Crabb, Aelod Seneddol Preseli Penfro a chyn-Ysgrifennydd Cymru, yn un o chwech o Geidwadwyr a bleidleisiodd dros gynnig Llafur i gynnal y cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol neithiwr (nos Lun, Ionawr 18).

Mae’r prif weinidog Boris Johnson wedi gwrthod sicrhau y bydd estyniad a fydd yn werth £1,000 i deuluoedd yn parhau ym mis Ebrill.

Cafodd cynnig Llafur ei dderbyn o 278 o bleidleisiau i ddim ar ôl i Boris Johnson orchymyn y Ceidwadwyr i atal eu pleidlais – gweithred sydd wedi’i galw’n “bathetig” gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.

Ond roedd Stephen Crabb yn un o chwech oedd wedi cefnogi cynnig Llafur – y tro cyntaf iddo weithredu yn erbyn chwip y blaid – gan ddweud y dylid cynnal y cynnydd am flwyddyn arall er mwyn cynnig “sicrwydd” ariannol i deuluoedd.

Roedd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon, wedi galw’r newid arfaethedig yn “foesol resynus”.

Stephen Crabb

Roedd Stephen Crabb wedi canmol polisïau ariannol “hanesyddol” y Canghellor Rishi Sunak.

Ond fe fu’n cwestiynu ai mis Mawrth fyddai’r adeg briodol i ddod â’r gefnogaeth i ben.

“Y cwestiwn i ni nawr yw ai diwedd mis Mawrth eleni, dim ond deg wythnos i ffwrdd, yw’r adeg gywir i ddechrau dirwyn y gefnogaeth hon i ben – yn benodol i ddileu’r gefnogaeth ychwanegol i’r rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol – a dw i ddim yn credu mai dyma’r adeg gywir,” meddai.

Dywedodd fod yr £20 ychwanegol yr wythnos wedi helpu’r rhai “sydd ar waelod y raddfa incwm”, gan ychwanegu mai’r “gwir yw fod y farchnad lafur yn lle ofnadwy nawr i gynifer o bobol”.

“Mae’r cyfleoedd i bobol ddod o hyd i waith newydd, cynyddu eu horiau, rhoi hwb i’w henillion, gwella sefyllfa ariannol eu teuluoedd wedi cael eu cwtogi’n sylweddol gan effaith economaidd yr argyfwng iechyd cyhoedus, a dyna’r cyd-destun ar gyfer y drafodaeth hon am dorri’n ôl ar y cynnydd o £20 yr wythnos.

“Dyna pam dw i’n credu bod y cynnydd mor bwysig nawr, a pham dw i’n credu bod angen ei ymestyn am 12 mis arall.”

‘Hynod siomedig’

Yn ôl Jonathan Reynolds, mae’n “hynod siomedig” fod y Ceidwadwyr wedi gwrthod cefnogi cynnig Llafur.

“Mae Prydain yn wynebu’r dirwasgiad gwaethaf o unrhyw economi oherwydd anallu a diffyg penderfyniad y Llywodraeth,” meddai llefarydd gwaith a phensiynau Llafur.

“Nawr, mae’r Canghellor yn disgwyl i deuluoedd yng Nghymru dalu’r bil – gan fynd â £1,000 y flwyddyn oddi wrth 221,189 o deuluoedd, niweidio ein heconomi a thynnu plant i mewn i dlodi.

“Roedd hwn yn gyfle sydd wedi’i golli i’r Llywodraeth roi’r sicrwydd i deuluoedd maen nhw’n ei haeddu.”

‘Coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr’

Mae Huw Irranca-Davies, Aelod Llafur o’r Senedd yn Aberogwr, wedi cyhuddo’r Blaid Geidwadol o greu “coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr”.

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywed y prif weinidog Mark Drakeford y bydd yn codi’r mater yn ei gyfarfod nesaf â Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gan ddweud bod “gan bobol yr hawl i wybod pa addewidion gafodd eu gwneud iddyn nhw a pham eu bod nhw wedi’u rhwygo mor gyflym gan y Llywodraeth hon”.