Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos i fwy o farwolaethau gael eu cofnodi yng Nghymru yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn oherwydd Covid-19 nag unrhyw wythnos arall ers dechrau’r pandemig.

Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau mewn ysbytai.

Yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar Ionawr 8, cafodd 454 o farwolaethau oherwydd Covid-19 eu cofnodi.

Mae hyn yn cymharu â 310 yn yr wythnos flaenorol ar ddiwedd 2020.

Mae’r ffigurau ar gyfer wythnos gyntaf y flwyddyn hefyd 442 yn uwch na’r cyfartaledd dros y pum mlynedd diwethaf.

Fodd bynnag, mae’r swyddfa ystadegau yn rhybuddio y gallai oedi wrth gofrestru marwolaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd oherwydd gwyliau banc fod yn gyfrifol am y cynnydd.

Holl farwolaethau fesul wythnos o gymharu â’r cyfartaledd rhwng 2015-2019

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Marwolaethau wedi’u cofrestru’n wythnosol yng Nghymru