Mae grŵp aml-asiantaeth Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd yn erfyn ar drigolion y sir i gydymffurfio yn llwyr â rheolau Llywodraeth Cymru yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o’r feirws.
Daw hynny ar ôl cofnodi 255 achos newydd o’r feirws yng Ngwynedd dros yr wythnos diwethaf – cynnydd o 64% o’i gymharu â’r wythnos flaenorol.
Mae swyddogion wedi rhybuddio bod yr amrywiolyn yn lledaenu’n gyflym, bod mwy o bobol yn cael eu heintio a bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan bwysau cynyddol.
Mae’n ymddangos mai amrywiolyn newydd o’r haint sy’n gyfrifol am y mwyafrif o’r achosion hyn, a’r amrywiolyn hwnw’n lledaenu’n gynt, gyda phlant yn llawer mwy tebygol o’i ddal o’i gymharu â’r feirws ei hun.
“Y gwir ydi fod bywydau yn y fantol”
“Mae achosion o fewn rhannau cyfagos o Gymru yn uwch nag erioed, gyda gwasanaethau ysbytai yn gwegian,” meddai Dafydd Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb COVID-19 Gwynedd.
“Mae’n rhaid i ni i gyd dynnu ynghyd i sicrhau nad ydi cymunedau Gwynedd yn dilyn yr un patrwm – y gwir ydi fod bywydau yn y fantol.
“Mae straen newydd yr haint yn amlycach o lawer yng Ngogledd Cymru, ac yn cyfrif am hyd at 70% o’r holl achosion newydd.
“Mae’r amrywiad hwn yn llawer haws ei ledaenu i’r bobl rydym yn dod i gyswllt agos gyda nhw, ac rydym yn gweld aelwydydd cyfan yn cael eu heintio am ei fod mor hawdd ei drosglwyddo. Cofiwch fod rhai pobl â COVID-19 ac sydd ddim yn dangos symptomau.
“Gall pob un ohonom ymfalchïo yn y ffordd mae’r mwyafrif o bobl Gwynedd wedi dilyn y rheolau drwy gydol y pandemig. Trwy wneud hynny, maen nhw wedi helpu sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yr ardal wedi cadw’n iach.”
“Byddai’n drasiedi i ni golli rheolaeth o’r sefyllfa”
“Rydym wedi dechrau ar y gwaith o frechu pobl leol, ac mae’r broses yma yn bwrw ymlaen yn dda. O ystyried popeth yr ydym wedi ei aberthu hyd yn hyn, byddai’n drasiedi i ni golli rheolaeth o’r sefyllfa rŵan â ninnau’n gweld y golau ar ddiwedd y twnnel,” meddai wedyn.
“Mae ystadegau yn dangos bod pobl yn credu eu bod yn fwy tebygol o ddal Coronafeirws gan ddieithryn.
“Mewn gwirionedd, rydym fwy tebygol o ddal y feirws wrth blygu neu dorri rheolau gyda phobl yr ydym yn eu hadnabod, megis wrth gyfarfod â ffrindiau a theulu nad ydym yn byw gyda nhw.
“Y ffordd orau i ni dorri’r gadwyn angheuol ydi trwy ymddwyn fel bod gennym ni ein hunain a phawb o’n gwmpas y feirws – gan aros adref, cadw o leiaf 2 fedr i ffwrdd o bobl eraill bob amser os oes rhaid gadael y tŷ, golchi neu ddiheintio’n dwylo yn rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb o safon.
“Mae hi hefyd yn bwysig nodi fod y rheini sydd wedi derbyn y brechlyn Covid-19 angen parhau i ddilyn y camau yma.
“Wrth chwarae ein rhan rŵan ac amddiffyn y gwasanaeth iechyd, bydd y gwasanaeth iechyd yn gefn i ni os neu pan fyddwn ei angen yn y dyfodol.”