Mae ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth ar enynnau’r coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod wedi datgelu cliwiau am darddiad y feirws a sut y trosglwyddodd i bobol.

Defnyddiodd tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth ac Athrofa Roslin ym Mhrifysgol Caeredin gannoedd o enomau firysau sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cymharu SARS-CoV-2 – y feirws sy’n achosi’r haint COVID-19 – i’w berthnasau genynnol agosaf yn yr ystlum a’r pangolin.

Mae’r ymchwil yn rhoi sail ychwanegol i’r syniad bod math cynharach o’r feirws wedi bod yn bresennol mewn ystlumod a phangolinod cyn iddo gyrraedd pobol.

Mae’r astudiaeth, a gafodd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn MDPI Viruses, hefyd yn adnabod nifer o amrywolion mewn sawl coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod allai gynorthwyo’r gwaith o ddylunio a datblygu brechlynnau.

Defnyddiodd Nicholas Dimonaco, myfyriwr doethuriaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, dechneg gyfrifiadurol hybrid newydd o anodi genomau er mwyn dod i’r casgliadau.

“Mae’r gwaith hwn wedi dangos bod mathau o goronafirysau a welir mewn pangolinod ac ystlumod yn debycach yn enynnol i’r feirws SARS-CoV-2 mewn pobl na firysau eraill o’r un organebau lletyol,” meddai.

“Rydym wedi cymharu’r genomau firaol hyn ac wedi adnabod ardaloedd mwtaniadol, rhai oedd yn hysbys yn barod a rhai newydd, ar draws genynnau’r tri grŵp lletyol a’u heffaith ar eu swyddogaeth.”

Yn fyd-eang, dim ond saith genom coronafeirws mewn pangolinod sydd wedi eu dilyniannu.

Ychwanegodd Nicholas Dimonaco o Brifysgol Aberystwyth, prif awdur y papur ymchwil, fod y canfyddiadau yn tanlinellu’r angen am ragor o ymchwil.

“Mae’r astudiaeth hon yn pwysleisio’r diffyg genomau sydd ar gael ar hyn o bryd o’r anifeiliaid hynny yr ydym amau o letya coronafirysau, megis pangolinod neu ystlumod,” meddai.

“Felly, mae angen rhagor o ynysu a dilyniannu’r anifeiliaid sy’n lletya’r feirws.

“Gallai hyn bontio’r bwlch gwybodaeth am y firysau hyn sy’n gallu cael eu trosglwyddo o rywogaethau sy’n eu lletya o dan yr amgylchiadau cywir.”

“Wedi i ni archwilio holl enomau’r coronafeirws mewn ystlumod a phangolinod oedd ar gael yn gyhoeddus, fe nodon ni fod llond llaw o goronafirysau ystlumod a phob un o’r saith coronafeirws mewn pangolinod yn debyg iawn i SARS-CoV-2,” meddai Dr Barbara Shih, gwyddonydd craidd o Athrofa Roslin ym Mhrifysgol Caeredin ac uwch awdur y papur.

“Yn ddelfrydol, rydyn ni eisiau sbectrwm o firysau sy’n cynnwys yr ystod o ‘rywfaint yn debyg i’ i ‘bron yn union fel’ SARS-CoV-2 er mwyn olrhain ei darddiad yn fwy cywir.”