Mae ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer y Senedd yn mynnu nad oedd yn beirniadu ei fam ei hun wrth feirniadu “sefydliad Bae Caerdydd”.

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Calum Davies, ei bod hi’n “fraint” cael ei ddewis ar restr ranbarthol Canol De Cymru y Ceidwadwyr Cymraeg ar gyfer etholiadau’r Senedd fis Mai.

Ond wrth ymateb i sylw a wnaed gan Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd, mae Calum Davies yn cydnabod nad yw’n cytuno â’i fam ar bob dim, ond ei bod hi yn “un o’r bobol fwyaf talentog i gamu i’r adeilad [y Senedd] erioed”.

Daw hyn wedi i’w fam Suzy Davies, sydd o blaid datganoli, golli ei lle ar frig rhestr ranbarthol Gorllewin De Cymru y Ceidwadwyr Cymreig.

‘Nid safbwyntiau o blaid datganoli wrth wraidd y dewis’

Yn y cyfamser mae Suzy Davies yn gwadu ei bod wedi colli allan o ganlyniad i’r ffaith ei bod hi o blaid datganoli.

Dywed nad yw’r safbwyntiau hynny wedi cael eu trafod yn ystod y broses ddethol.

“Diolch yn fawr am yr holl negeseuon caredig am newidiadau rhestr Gorllewin De Cymru. Fi wir yn eu gwerthfawrogi,” meddai Suzy Davies.

“Fi’n gwybod bod rhai’n dewis gweld hyn fel rhyw fath o ddethol yn gysylltiedig â datganoli, ond mewn gwirionedd y ddynameg hen-ffasiwn o fewn y blaid oedd tu ôl i hyn wir.

“Fi’n gwybod bydd fy olynydd yn yr un mor awyddus i gael Llywodraeth Cymru Geidwadol â fi.”

Bydd rhaid iddi ennill etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cael dychwelyd i’r Senedd.

Carwyn Jones yw’r unig wleidydd i gynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ym Mae Caerdydd – bydd y cyn-Brif Weinidog yn camu o’i sedd ym mis Mai.

‘Rhaid ei ddiddymu’

Yn ardal Canol De Cymru, lle cadwodd Andrew RT Davies ei le ar frig y rhestr, cafodd ymgeiswyr eu holi sut y bydden nhw’n pleidleisio mewn refferendwm i ddiddymu’r Senedd.

Yn ei gais ar gyfer yr ardal dywedodd Calum Davies mai’r “gwir syml yw bod datganoli’n methu ac mae’n rhaid ei ddiddymu”.

“Felly, os ydych chi eisiau atebolrwydd, tarfu ar gonsensws Bae Caerdydd, a rhywun sydd nid yn unig yn cydnabod perygl datganoli ond a fydd yn brwydro i’w ddiddymu, yna fi yw eich Ceidwadwr a’ch Unoliaethwr,” meddai wedyn.

Cafodd Andrew RT Davies ei ddewis ar frig y rhestr, Joel James yn ail, Calum Davies yn drydydd a Chris Thorne yn bedwerydd.

Mae Calum Davies hefyd wedi ei ddewis fel ymgeisydd Ceidwadol Canol Caerdydd.

Darllen mwy:

Mab Aelod o’r Senedd ymhlith ymgeiswyr Ceidwadol sydd o blaid diddymu datganoli

A Suzy Davies AoS heb ei dewis yn rhanbarth Gorllewin De Cymru